Hyfforddi’r Hyfforddwr

Cyhoeddwyd 20/06/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Oherwydd y galw mawr am ein hyfforddiant diwethaf ym mis Mehefin, rydym yn cynnig diwrnod arall. 

Trainer.png

Lleoliad: Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd

Dyddiad: Dydd Iau 6 Medi 2018

Amser: 09:30 - 12:30

Sesiwn hyfforddi dair awr am ddim i addysgu gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc am Senedd Ieuenctid Cymru sydd ar y gweill.

Diben y sesiwn hyfforddi yw addysgu, grymuso a’ch galluogi i ddeall pob agwedd ar Senedd Ieuenctid Cymru, a rhoi gwybodaeth ac adnoddau ichi fynd i’ch ysgol/cymunedau lleol i gael pobl ifanc i gymryd rhan yn Senedd Ieuenctid Cymru. 

Mae’r hyfforddiant yn cynnwys:

  • Hanes a strwythur Senedd Ieuenctid Cymru

  • Gwybodaeth am Gofrestru Pleidleiswyr, sut i sefyll i fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru a’r broses Ethol

  • Gwybodaeth am Senedd Ieuenctid Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol a gwefannau

  • Copïau o adnoddau Senedd Ieuenctid Cymru