Llinell Amser Senedd Ieuenctid Cymru

Cyhoeddwyd 08/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/11/2021   |   Amser darllen munudau

Cynhelir etholiadau nesaf Senedd Ieuenctid Cymru ym mis Tachwedd eleni, 2021.

Mae'r llinell amser isod yn nodi'r dyddiadau allweddol ar gyfer pryd y gallwch gofrestru i bleidleisio, enwebu eich hun i'w hethol a sut y gallwch ddweud wrthym am y materion sydd bwysicaf i chi.

Nodir yr holl ddyddiadau pwysig hyn yma gyda dolenni yn mynd â chi i gael rhagor o wybodaeth a gweithredu cyn gynted ag y bydd y cyfleoedd gwahanol hyn ar gael.

Ail Senedd Ieuenctid Cymru 2021 – 2023

Cofrestru i bleidleisio

03 Mehefin – 12 Tachwedd

Gwna’n siŵr bod dy lais yn cael ei glywed – cofrestra i bleidleisio yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru!

Cofrestra erbyn 29 Hydref i gael dy god pleidleisio ar 1 Tachwedd.

Cofrestra rhwng 29 Hydref a 12 Tachwedd i gael dy god pleidleisio ar 15 Tachwedd.

Ceisiadau gan sefydliadau partner

03 Mehefin – 28 Mehefin

Rhwng 03 a 28 Mehefin, gall sefydliadau partner gofrestru i weithio gyda’r Senedd Ieuenctid nesaf.

Beth sy’n bwysig i ti?

03 Mehefin – 20 Medi

Rhwng 03 Mehefin a 20 Medi, rho wybod i ni beth sy'n bwysig i ti. Pa faterion wyt ti am weld y Senedd Ieuenctid nesaf yn eu trafod?

Dweud dy ddweud!

Enwebu ymgeiswyr

05 Gorffennaf – 20 Medi

Rhwng 05 Gorffennaf a 20 Medi, gall y bobl sydd am fod yn aelodau o’r Senedd Ieuenctid nesaf gofrestru i fod yn ymgeiswyr.

Etholiad cenedlaethol
ar-lein

01 Tachwedd – 22 Tachwedd

Pleidleisio yn agor. Defnyddia dy bleidlais i benderfynu pwy fydd yn rhan o’r Senedd Ieuenctid nesaf.

Cyhoeddi enwau’r aelodau

Rhagfyr 2021

Bydd enwau’r Aelodau a etholwyd i fod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru yn cael eu cyhoeddi.

Cyfarfod cenedlaethol cyntaf

Chwefror 2022

Bydd Senedd Ieuenctid newydd Cymru yn cyfarfod am y tro cyntaf.

 

Mae'r etholiad hwn yn gyfle i chi ddweud eich dweud, drwy bleidleisio dros eich ymgeisydd a rhoi gwybod i ni am y materion sy'n bwysig i chi. Mae eich llais yn bwerus, gwnewch yn siŵr ei fod yn cael ei glywed drwy gofrestru i bleidleisio heddiw!

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost i helo@seneddieuenctid.cymru.