"Mae rhaid i bob llais a phob rhan o Gymru gael eu cynrychioli"

Cyhoeddwyd 23/05/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Gwyliwch Christian yn trafod yr hyn y mae ei eisiau gan senedd ieuenctid yng Nghymru.

TRAWSGRIFIAD FIDEO:

Dwi'n credu bod hi'n hollbwysig i sicrhau bod ni'n sefydlu senedd ieuenctid yma yng Nghymru.

Mae Cymru yn un o'r unig wledydd yma yn Ewrop sydd ddim efo senedd ieuenctid, ac mae hwnna yn beryglus a dwi'n credu bod llais pobl ifanc yn cael ei golli.

Felly, mae'r cyfle hwn yn gyfle euraidd i sicrhau bod llais pobl ifanc yn cael ei roi yn ôl ar flaen materion pwysig Cymru.

Mae'n rili bwysig i ni edrych yn fwy manwl ar sut bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn cydweithio gyda'r Cynulliad ei hun a sicrhau bod y grŵp o bobl ifanc yma yn cael effaith sylweddol ar waith y Cynulliad. 

Hoffwn i weld nhw yn eistedd mewn ar bwyllgorau, fel un esiampl, ac yn cyfrannu tystiolaeth i'r pwyllgorau hefyd. 

I fi, mae'r ffaith bod ni 'di edrych ar strwythur sydd yn ceisio cynrychioli pob grŵp o bobl ifanc yng Nghymru trwy cael 40 aelod o etholaethau ac 20 o aelodau o grwpiau penodol yn hollbwysig.

Mae rhaid i bob llais a phob rhan o Gymru a phob person ifanc Cymru gael eu cynrychioli er mwyn sicrhau bod y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn gynrychiadol o'r boblogaeth sydd gennym ni yma yng Nghymru.

Mae 'na un peth sy'n peri gofid i fi, a hynny yw'r ffaith na fydd pobl ifanc dros 18 oed yn cael eu cynrychioli yn y senedd ieuenctid.

Er dwi'n cytuno gyda'r syniad sydd wedi cael ei grybwyll, bod pobl ifanc dros 18 yn gallu cael eu hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun, 'dwi dal yn credu bod pobl ifanc yn gyffredinol yn y braced oedran hynny (rhwng 18 a 25) yn cael eu tangynrychioli gan y drefn wleidyddol.

Felly, mae 'na gyfle euraidd gennym ni trwy'r Senedd Ieuenctid i Gymru i sicrhau bod y lleisiau hynny dal yn dod trwyddo trwy'r ymgynghoriadau, trwy'r dystiolaeth sy'n cael eu casglu a thrwy'r ffordd mae'r Senedd Ieuenctid i Gymru, yn cyfathrebu gyda'r bobl ifanc rhwng 18 a 25.

A phwy a ŵyr? Falle mae 'na gyfle arall i nhw gymryd rhan trwy mentora aelodau ifancach Senedd Ieuenctid i Gymru.