Mis Hanes Pobl Dduon

Cyhoeddwyd 30/10/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ddydd Sadwrn 28 Medi, yn ystod GWLAD: Gŵyl Cymru’r Dyfodol, cefais y cyfle i fod yn aelod o banel Chwarae Teg a oedd yn cynnwys cyn Aelodau Cynulliad uchelgeisiol yn trafod y pwnc - 'Senedd i Bob Menyw'

Roedd y panel yn cynnwys menywod ysbrydoledig yn cynnwys: Cerys Furlong (Cadeirydd, Prif Weithredwr Chwarae Teg), Sahar al Faifi (Arweinydd Ieuenctid Citizens UK Cymru ac actifydd), Jocelyn Davies (Cyn Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru), Sue Essex (Cyn Aelod Cynulliad Llafur dros Ogledd Caerdydd).

Dechreuodd Sue a Jocelyn y drafodaeth gan rannu eu profiad yn arwain at 1999 a pha mor hawdd neu anodd ydoedd i gyflwyno’r mesurau a sicrhaodd gydraddoldeb rhywiol. Myfyriodd Sue Essex ar un o’i heiliadau mwyaf balch, sef pan ddaeth Cymru i fod y llywodraeth gyntaf yn y byd i gael cabinet â mwy o fenywod na dynion, dan arweinyddiaeth Rhodri Morgan. Tynnodd Jocelyn sylw at y peryglon y gall personoliaeth yn aml iawn gael blaenoriaeth dros egwyddor, a dywedodd fod yn rhaid ichi warchod rhag hynny os ydym am sicrhau cydraddoldeb rhywiol. Dywedodd Sahar iddi benderfynu cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth plaid i roi llais i fenywod duon yng Nghymru, ac i ddangos y gallant hwythau hefyd anelu at swyddi gwleidyddol.

Chwarae Teg.jpg

Mae fy ysgogiad i sefyll etholiad i’r Senedd yn gysylltiedig â phwyntiau pob un o’r menywod hyn gan fy mod am fod yn llais i bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, bod yn ddelwedd wleidyddol i bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) y cefais yn anodd i’w weld wrth dyfu i fyny, a dweud fy nweud ar ddyfodol ein cenhedlaeth.

Wedyn, gofynnwyd y cwestiwn, 'Mae'r ffordd y sefydlwyd y Senedd Ieuenctid wedi golygu bod llawer gwell amrywiaeth nag sydd yn y Cynulliad ei hun - sut mae hynny'n adlewyrchu yn y drafodaeth a'r ymddygiad? A yw hyn yn rhywbeth yr hoffem ei weld yn y Cynulliad ei hun? ' Roedd yn braf iawn gweld bod yr amrywiaeth gadarnhaol yn y Senedd Ieuenctid wedi'i sylwi ac roeddwn yn teimlo’n falch o fod yn rhan o rywbeth mor gymeradwy.

Er bod pump ohonom ar y panel, roeddem i gyd yn cytuno ei bod yn bwysig cael cynrychiolaeth menywod BAME yn y Cynulliad fel bod y materion hyn (fel cael mynediad at yr economi a chynrychiolaeth wael) yn dod yn weladwy ac felly y gellir mynd i'r afael â nhw. Felly sut mae gwneud hyn? Cymryd camau ymarferol i sicrhau bod menywod o bob cymuned ledled Cymru yn cael eu cynrychioli mewn bywyd cyhoeddus. Mae newid dulliau yn hanfodol i sicrhau bod newid yn digwydd ac i allu gweld manteision amrywiaeth.

Roedd yr areithiau cloi yn ymwneud â'r hyn yr oeddem am ei weld erbyn 20fed pen-blwydd nesaf datganoli. Rwyf i am weld yr hyn na welais erioed o'r blaen, a hynny yw wyneb fel fy un i, wyneb menyw ddu yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae angen gweithredu mwy radical i weld cynnydd clir tuag at gydraddoldeb gwirioneddol i bob menyw.

Diolch i Chwarae Teg am fy ngwahodd i gymryd rhan yn y drafodaeth hon, roedd yn brofiad rhagorol a mwynheais yn fawr iawn! Roedd yn anrhydedd imi rannu llwyfan gyda menywod mor anhygoel a chael y cyfle i siarad ar bwnc yr wyf yn teimlo mor angerddol amdano, yn enwedig cyn Mis Hanes Pobl Dduon. Edrychaf ymlaen at weld cynnydd tuag at Senedd i bob menyw yn wir.