Pleidlais@16?

Cyhoeddwyd 30/04/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Gwion Rhisiart sy’n rhannu ei brofiad o gyfrannu at ymgynghoriad Bil Senedd ac Etholiadau Cymru - Pleidleisio yn 16 oed.

Fe ddaeth cynrychiolwyr o’r pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a David Melding AC, i mewn i fy ysgol mis yma, er mwyn ymgynghori a chlywed barn pobl ifanc am ostwng yr oedran bleidleisio i 16. Roedd 12 disgybl i gyd, wedi eu gofyn i roi eu barn ar ostwng yr oedran pleidleisio.

I ddechrau, fe ddangoson nhw fideo i ni yn esbonio Bil Senedd ac Etholiadau Cymru, sy’n cynnig gostwng pleidleisio i 16, ynghyd â newidiadau eraill i sut mae’r Senedd yn gweithio o ddydd i ddydd. Roedd y fideo’n glir iawn, ac amlinellodd brif nodweddion y Bil. Nesaf, fe rannon ni mewn i dri grŵp, a thrafodon ni ein barn am y Bil ac oes oedden ni o blaid neu’n erbyn o fewn ein grŵp.

IMG_20190404_142318.jpg

Roedd fy ngrŵp i o blaid, gan ddadlau bod gan bobl ifanc 16 oed gymaint o gyfrifoldebau, a dylsen ni gael yr hawl i gael dweud ar yr hyn sy’n ein heffeithio. Fodd bynnag, wrth gael trafodaeth agored gyda gweddill yr ystafell, codwyd rhai anfanteision am ostwng yr oedran bleidleiso, er enghraifft aeddfedrwydd, hygyrchedd ac addysg am y pwnc.

Yn drydydd, fe ofynnon nhw am addysg wleidyddol; os oedden ni’n ei gael, a sut gallai hyn effeithio ar yr oedran bleidleisio. Yn fy ngrŵp i, roedd pawb yn gytun fyddai addysg wleidyddol yn buddio pobl ifanc yn fawr petai’r oedran bleidleisio’n cael ei ostwng.

Wrth rannu â’r grŵpiau eraill, roedden nhw’n cytuno, ond roedd pawb yn teimlo’n gryf fod angen rhoi addysg wleidyddol di-duedd.

IMG_20190404_141534.jpg

Yn olaf, mi gafon ni set o ddatganiadau o’r ymgynghoriad ar y rhyngrwyd. Fe drafodon ni’r gosodiadau yma, sef barn gan bobl ifanc am y Bil. Fe rhoddon ni ein barn arnynt, a’u dadlau.

Beth yw eich barn chi ar bleidleisio yn 16 oed? Rhannwch eich barn yn y blwch sylwadau isod.