Senedd Ieuenctid Cymru a’r Cwricwlwm Newydd: Canllaw i bobl ifanc

Cyhoeddwyd 10/05/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 31/05/2022   |   Amser darllen munudau

Senedd Ieuenctid Cymru a’r Cwricwlwm Newydd: Canllaw i bobl ifanc

Y cwricwlwm newydd i Gymru: Beth ydyw?

Efallai dy fod wedi clywed am y Cwricwlwm newydd i Gymru neu efallai mae rhywun wedi gofyn am dy farn arno; fel arall, efallai dy fod wedi rhoi cynnig ar rai gwersi ar gyfer dy athrawon. Mae’n bosibl y byddi di’n gwybod popeth am y Cwricwlwm os yw dy ysgol wedi mabwysiadu’r egwyddorion yn barod (os felly, mae croeso i ti symud ymlaen i gwestiwn 3).

Mae’r Cwricwlwm newydd yn grwpio pynciau yn ôl 6 maes allweddol (Iechyd a Lles; y Celfyddydau Mynegiannol; Gwyddoniaeth a Thechnoleg; Mathemateg a Rhifedd; y Dyniaethau; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu). Nodau’r Cwricwlwm newydd yw meithrin:

1) unigolion iach, hyderus;

2) dysgwyr uchelgeisiol, galluog;

3) cyfranwyr mentrus, creadigol;

4) dinasyddion egwyddorol, gwybodus.

Y rhain yw 4 Diben y Cwricwlwm Newydd i Gymru.

Yn ogystal â hyn, mae yna ofyniad ar gyfer cymhwysedd digidol, llythrennedd a rhifedd yn ogystal â chyflwyno Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb i bob disgybl rhwng 3 a 16 oed. Bwriad hyn yw rhoi gwybod i ti, fel person ifanc, am y gwahaniaeth rhwng cydberthynas iach ac afiach yn ogystal â darparu addysg gynhwysol am faterion LHDTC+.

Sut mae Senedd Ieuenctid Cymru yn ffitio i mewn yn hyn?

Mae gwaith Senedd Ieuenctid Cymru yn cyd-fynd â’r adran ar ddinasyddion egwyddorol, gwybodus gan y bydd dy waith yn y maes yma’n galw arnat i ymgysylltu â materion cyfoes, ymrwymo i gynaliadwyedd y blaned ac ati. Mae’r Cwricwlwm newydd hefyd yn rhoi pwyslais ar lais y disgybl. Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn falch o roi llwyfan i bobl ifanc ddweud eu dweud a thrafod materion pwysig. 

Hefyd, mae yna gyfeiriadau at ddemocratiaeth, hawliau a chynaliadwyedd sy'n cyd-fynd â chylch gorchwyl y Senedd Ieuenctid, yn ogystal â’r pynciau a ddewisodd yr Aelodau presennol, sef yr hinsawdd a'r amgylchedd, addysg a’r cwricwlwm ysgol ac iechyd emosiynol ac iechyd meddwl. Nid yw gwaith y Senedd Ieuenctid yn ffitio i mewn i bob maes dysgu, fel gwyddoniaeth a mathemateg (oni bai dy fod yn cael y dasg o gyfrif tueddiadau pleidleisio blaenorol yn etholiadau’r Senedd Ieuenctid) ond mae yna rai cysylltiadau penodol o ran cyfeiriadau at ddemocratiaeth a dinasyddion egwyddorol, gwybodus.

A fydd yn effeithio arnaf fi?

Mae'n dibynnu ar dy oedran. Mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar ysgolion uwchradd i gyflwyno’r Cwricwlwm Newydd i Gymru ym mis Medi 2023 ar gyfer blynyddoedd 7 ac 8, a bydd yn cael ei gyflwyno i grwpiau blwyddyn hŷn fesul blwyddyn nes iddo gyrraedd Blwyddyn 11 ym mis Medi 2026. Os wyt ti’n hŷn na hynny, efallai na fydd yn effeithio arnat yn uniongyrchol, ond mae’n bosibl y byddi di’n cael dy addysgu mewn ffordd wahanol, gyda mwy o bwyslais ar y meysydd dysgu a phrofiad a'r pynciau uchod.

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Nid oes angen i ti wneud unrhyw beth heblaw bod yn barod i rannu dy farn â’th athrawon. Bydd dy gyngor ysgol neu'r Senedd yn cael cyfle i rannu eu barn nhw hefyd, felly efallai y byddi di am ystyried cymryd rhan ynddynt er mwyn gallu dweud dy ddweud.

Felly ai Senedd Ieuenctid Cymru greodd y Cwricwlwm Newydd i Gymru?

Na. Drwy gyfraith newydd (Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021), mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd wedi creu'r Cwricwlwm Newydd i Gymru. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am addysg yng Nghymru, ac mae’r Senedd yn gallu gwneud awgrymiadau sydd o bosibl yn arwain at newidiadau yn y maes hwn. Pan fydd hyn yn gofyn am newid yn y gyfraith, fel sy’n wir am y cwricwlwm newydd, y Senedd sy’n penderfynu a ddylai’r newid gael ei wneud. Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif ar ran pobl ifanc Cymru.

Eisiau gwybod mwy am Senedd Ieuenctid Cymru?

Os oes gennyt ddiddordeb yng ngwaith Senedd Ieuenctid Cymru, mae croeso i ti bori’r wefan: 

https://seneddieuenctid.senedd.cymru/

 

Hefyd, mae croeso i ti ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol:

twitter:@SeneddIeuenctid

facebook: seneddieuenctidcymru

instagram: SeneddIeuenctidCymru

Pob lwc a mwynha!