Llais y Dysgwr a'r Cwricwlwm Newydd

Cyhoeddwyd 12/07/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/08/2021   |   Amser darllen munud

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn:

Ymunwch â ni am drafodaeth gydag arbenigwyr ac arweinwyr o’r sector addysg, a chyn Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru.

Bydd y digwyddiad yn gyfle i drafod eu profiadau o fod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru, y cysylltiad hir dymor â’r cwricwlwm newydd ac etholiad Senedd Ieuenctid Cymru sydd i ddod ym mis Tachwedd eleni, a sut y gall sefydliadau addysg a grwpiau ieuenctid gymryd rhan yn yr ymgyrch.