Barod at Sioe Frenhinol Cymru 2023?

Ymunwch â ni ar Faes y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf.


Dyddiadau
: 24 - 27 Gorffennaf 2023

Lleoliad: Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys. LD2 3SY

Cyrraedd y lleoliad: Tocynnau a chyfarwyddiadau 

Beth sy’n digwydd

Ymunwch â ni yn Sioe Amaethyddol Cymru am ychydig ddyddiad o gyffro a rhyngweithio!

Dyma beth y gallwch edrych ymlaen atynt:

Cymryd rhan: Codwch eich llais yn ein hymgynghoriad diweddaraf, “Fy Niwrnod Ysgol”, gan yr hoffem glywed beth rydych chi’n ei feddwl o hyd y diwrnod ysgol a’r gweithgareddau yr hoffech chi wneud mwy ohonyn nhw. Mae eich barn yn bwysig, a dyma eich cyfle i wneud argraff go-iawn ar y materion sy’n effeithio arnoch chi.

Cwrdd â’r tîm: Bydd gennym westeion arbennig yn galw heibio yn ystod yr wythnos, gan gynnwys aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru a’n sefydliad partner, CFfI Cymru, a gaiff ei gynrychioli gan yr anhygoel Cerys Harts. Dewch i ymuno yn y drafodaeth gyda’r unigolion ysbrydoledig hyn, sy’n angerddol dros wneud gwahaniaeth.

Dewch i ganfod grym Senedd Ieuenctid Cymru: Dysgwch ragor amdanom, beth rydym yn ei wneud, a pham mae mor hanfodol. Dysgwch sut y gall eich llais chi dynnu sylw at faterion sy’n cael effaith uniongyrchol ar bobl ifanc fel chi. Mae eich syniadau a’ch safbwyntiau’n werthfawr!

Rhyddhewch eich creadigrwydd: Gafaelwch mewn pen a gadewch sylw ar y bwrdd graffiti. Mynegwch eich hun, rhannwch eich meddyliau a gadewch i’ch dychymyg yn rhydd. Mae’n gyfle i arddangos eich talentau artistig tra rydych yn ychwanegu eich llais i’r sgwrs.

Peidiwch â methu’r cyfle anhygoel hwn i godi eich llais, cysylltu â phobl ysbrydoledig a gadael eich ôl ar y dyfodol.

👋 Welwn ni chi yna!


Cofrestru ar gyfer y cylchlythyr

Gallwch gofrestru i gael y wybodaeth ddiweddaraf gan Senedd Ieuenctid Cymru.

Anfonir popeth y dylech ei wybod o ran newyddion a digwyddiadau yn syth i'ch mewnflwch.