Sbwriel a Gwastraff Plastic - Dadleuon Senedd Ieuenctid Cymru

Cyhoeddwyd 15/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 23 Chwefror 2019, cyfarfu Senedd Ieuenctid Cymru am y tro cyntaf i drafod y materion y maent am fynd i’r afael â hwy fel eu prif themâu ar gyfer y ddwy flynedd nesaf a phleidleisio arnynt.

Yn ystod y ddadl hon, cynigiodd Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru pam maent yn teimlo y dylai sbwriel a gwastraff plastig fod yn un o’r prif faterion y dylent eu blaenoriaethu.

Yn y bleidlais gyntaf hanesyddol, cefnogwyd sbwriel a gwastraff plastig gan 23 o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru, gan ddod yn un o’r themâu y bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn canolbwyntio arnynt dros y ddwy flynedd nesaf.