Cyngor Evan am Aros Adref

Cyhoeddwyd 24/04/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Fy enw i yw Evan Burgess a dwi’n aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Aberconwy. Dwi’n gobeithio wrth ddarllen y blog yma eich bod chi, eich teulu a ffrindiau mewn iechyd da ac yn hapus. Mi rydw I, fel chi yn aros adref, i arbed bywydau a gwarchod y GIG sydd mor bwysig ar yr adeg yma a dwi’n gobeithio eich bod chi yn delio yn iawn hefo aros adref.

Evan- Snip o fidio.PNG

Ond rhag ofn nad ydach chi, yn y blog yma dwi am rannu ychydig o gyngor ar sut i aros yn iach yn yr adeg anhygoel yma. Mae hyn yn gyfnod brawychus iawn i lawer. Mi fydd llawer ohonom ni yn poeni’n arw ac efallai yn teimlo yn anhapus iawn am ein bod yn methu gweld ein ffrindiau, wedi colli aelod o’r teulu neu ffrind, neu yn poeni am yr amgylchiadau rydym yn byw ynddynt.

Ond mae’n bwysig iawn i aros yn iach yn ystod y cyfnod yma, am ein hapusrwydd ac er lles ein cyrff rhag ofn i ni fynd yn sâl, felly dyma ni fy nghyngor ar sut i aros yn iach yn y cyfnod yma.

  • Gwnewch rywbeth positif. Mae’n anodd iawn i aros yn hapus yn ystod yr adeg yma ond efallai un o’r ffyrdd gorau dwi ’di ffeindio sy’n helpu yw gwneud rhywbeth positif rydych yn falch ohono. Beth gwell i wneud na rhywbeth sy’n helpu’r amgylchedd? Yn amlwg mae’n amhosib gadael y tŷ a gwneud rhywbeth tu allan ond nawr ein bod ni yn gwario mwy fyth o amser yn y tŷ, dyma’r amser perffaith i gael trefn ar ailgylchu yn eich tŷ. Dwi wrth fy modd yn gwahanu’r plastigion o’r papur, a’r caniau o’r gwydr. Efallai eich bod eisiau creu system ailgylchu newydd, i wneud hi’n haws i ailgylchu? Dyma’r amser delfrydol i baratoi bagiau neu focsys ar gyfer plastig, cardfwrdd, caniau a.y.y.b. Efallai eich bod chi ond yn ailgylchu o’r gegin? Dwi’n dwlu ar gasglu ail-gylchu o’r ystafelloedd gwely ac ymolchi sy’n aml yn cael eu hanghofio gan bawb. Beth am drio hyn eich hun, yn hytrach na thaflu popeth i’r bin. Efallai eich bod chi yn ansicr am beth a sut i ailgylchu? Beth am ddarganfod fwy ar y wê? Mi fydd digon o wybodaeth ar wefannau eich cyngor Sir.

IMG_0366 (004).JPG

Yn well byth, tra rydych wedi diflasu yn eich tai beth am ailddefnyddio eich gwastraff a’u troi fewn i rywbeth creadigol neu ddefnyddiol? Gallech dorri bocsys grawnfwyd brecwast i wneud papur ar gyfer rhestri, neu ailddefnyddio pacedi metal a chardfwrdd i ddal pethau eraill. Dwi ‘di dysgu fod gwneud  pethau positif yn fy nghadw’n brysur ac yn rhoi rhywbeth i fi anelu ato, ac mi fydd yn ddylanwad da ar y blaned yn rhoi hwb i chi. Cofiwch, gallwch hefyd lenwi holiadur Senedd Ieuenctid Cymru ar ailgylchu hefyd i helpu ni i ddylanwadu ar y blaned! Ewch i https://www.surveymonkey.co.uk/r/Gwastraff

IMG_1248 (002).jpg
  • Cadwch drefn i’ch diwrnod. Un ffordd i aros yn iach ac yn hapus yw cadw eich diwrnod mewn trefn. Dwi ‘di ffeindio fod cadw trefn ar fy nydd wedi fy helpu i lawer. Dwi ‘di trio cadw patrwm cysgu rheolaidd, sydd wedi fy nghadw i’n hapus ac yn iachus yn ystod y cyfnod hwn. Ceisiwch hefyd i gadw’n brysur yn ystod y dydd. Dwi ‘di mwynhau codi a bod yn weithgar. Byddem yn awgrymu os ydych hefo gwaith ysgol, cychwynnwch ar amser cyson a chadwch hyd eich ‘gwersi’ yn gyson hefyd. Mae 'di fod yn fformiwla wych i fi. Yn ogystal â chadw yn brysur ac mewn trefn, cofiwch i adael digon o amser i ymlacio. Mae pawb o dan ychydig yn fwy o straen ac mae ymlacio mewn unrhyw ffordd sydd yn gweithio i chi yn bwysig. Fy hoff ffordd o ymlacio yw darllen i gael fy meddwl ar rywbeth arall.

Dyna ni, ychydig o gyngor ar sut i aros yn iach ac yn hapus yn ystod y cyfnod yma. Dwi’n gobeithio eich bod chi’n meddwl y bydd y rhain yn ddefnyddiol, ac y byddan nhw yn eich helpu chi, dwi’n gobeithio hefyd y byddwch chi yn aros yn iach yn y misoedd nesaf. Cofiwch, os ydych chi’n aildrefnu eich ailgylchu neu wneud rhywbeth allan o wastraff, anfonwch o ar e-bost i helo@seneddieuenctid.cymru, neu tagiwch ni yn eich post ar eich cyfrifau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #ygorauongwastraff.

Arhoswch yn ddiogel, diolch am ddarllen. Evan.