Dysgu o Adref – 5 Ffordd i Gadw Meddwl Iach a Pharhau i Ddefnyddio’ch Llais

Cyhoeddwyd 06/04/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'n gyfnod anodd i chi. Rydym yn deall eich bod yn aros gartref ac mae dyna lle fyddwch yn gorfod aros am y rhan fwyaf o’ch dydd. Yn ystod y cyfnod rhyfedd hwn, rydym am eich annog i gael ymagwedd gadarnhaol ac i gadw eich meddwl yn iach:

  1. Pori adnodd Hwb Comisiynydd Plant Cymru

    Mae Hwb y Comisiynydd Plant yn adnodd newydd sy'n esbonio'r sefyllfa o ran y Coronafeirws, yn darparu diweddariadau ac yn cynnig cymorth a chamau ymarferol y gall pobl ifanc eu cymryd yn ystod y cyfnod hwn https://www.complantcymru.org.uk/coronafeirws/. Cewch bob math o gyngor defnyddiol, gan gynnwys linciau at wersi ffitrwydd gyda Jo Wicks a chyngor ar sut i beidio â phryderu am y sefyllfa. Yn ogystal, mae adran ar gyfer eich rhieni, sy'n darparu cyngor iddyn nhw ynghylch dysgu gartref.

  2. Llenwi arolwg iechyd emosiynol ac iechyd meddwl Senedd Ieuenctid Cymnru

    Mae gan y Senedd Ieuenctid arolwg sy’n rhedeg, gyda'r nod o gasglu sylwadau ynglŷn â’ch iechyd meddwl, eich dulliau ymdopi a’r cymorth sydd ar gael i bobl ifanc. Hoffem glywed gennych. Gwyliwch y fideo ac yna atebwch y cwestiynau https://www.surveymonkey.co.uk/r/iechydmeddwl-ieuenctid. Gwyliwch fideo o lansiad yr ymgynghoriad yng Ngholeg Gŵyr https://youtu.be/OP-fNmvYIfs.

  3. Pethau i’ch cadw’n brysur a chadw eich meddwl yn iach
    Mae gan nifer o’r gwefannau hyn gyngor defnyddiol am sut i gadw eich meddwl yn iach drwy'r cyfnod hwn. Y fantais yw eu bod oll yn sefydliadau arbenigol, felly gallwch gysylltu â nhw i gael cymorth a chanfod llwyth o wybodaeth ddefnyddiol. Porwch y rhestr isod:
    > Mind Cymruhttps://www.mind.org.uk/information-support/for-children-and-young-people/, a cheir tudalen benodol ar coronafeirws yma https://www.mind.org.uk/information-support/for-children-and-young-people/coronavirus-and-your-wellbeing.
    > Platfform – Arbenigwyr Iechyd Meddwl https://vimeo.com/platfformyp
    > Urdd – gweithgareddau yn y cartref i bobl ifanc o bob oed https://www.urdd.cymru/cy/ieuenctid/criw/, a cheir tudalen penodol i’r rheiny sydd 14 oed ac yn hyn https://www.urdd.cymru/cy/ieuenctid/criw/criw-14/

  4. Dal ati i ddefnyddio’ch llais – Sbwriel a Gwastraff Plastig
    Er bod y cyfnod hwn yn heriol i bawb, a'r sefyllfa o ran y Coronafeirws yn hawlio’n sylw, deallwn fod nifer o faterion eraill yn parhau i fod yn uchel ar eich agenda fel pobl ifanc. Yn hynny o beth, mae Senedd Ieuenctid Cymru yn awyddus i glywed gennych ynglŷn â’ch arferion ailgylchu a'ch arferion o ran ailddefnyddio gwastraff a phlastigau. Maent yn awyddus i glywed eich barn. Gwyliwch y fideo sy’n esbonio’r arolwg ac yna llenwch yr holiadur ‘Gwneud y Gorau o’n Gwastraff’ https://www.surveymonkey.co.uk/r/Gwastraff

  5. Gwylio fideos ein pobl ifanc yn siarad am eu ffyrdd nhw o gadw eu meddyliau yn iach
    Mae rhai o aelodau’r Senedd Ieuenctid yn rhannu gwybodaeth am yr hyn y maent yn
    hoffi ei wneud er mwyn cadw eu meddyliau'n iach yn ystod y cyfod hwn. Pam na
    wnewch chi drio dull gwahanol bob dydd? Dilynwch @SeneddIeuenctid ar Trydar https://twitter.com/SeneddIeuenctid neu @seneddieuenctidcymru ar Instagram https://www.instagram.com/seneddieuenctidcymru/.