Lansio Trydydd Ymgyrch Etholiad Senedd Ieuenctid Cymru

Cyhoeddwyd 01/08/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/08/2024   |   Amser darllen munudau

Lansiwyd ymgyrch etholiad nesaf Senedd Ieuenctid Cymru yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Maldwyn, gan ddechrau’r un pryd y broses gofrestru i bleidleisio a’r arolwg materion.

Beth sydd wedi digwydd ers hynny?

Bellach caiff unrhyw un rhwng 11 a 17 oed wneud cais i fod yn ymgeisydd yn yr etholiad.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30 Medi, felly, os wyt ti’n berson ifanc sy’n angerddol dros yr hyn sy’n digwydd yn dy ardal leol ac yng Nghymru, cofia wneud cais.

Mae tîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd wedi bod yn brysur yn ymweld ag ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid ledled Cymru i hyrwyddo’r etholiad nesaf ac annog pobl ifanc i gymryd rhan drwy ofyn iddyn nhw ystyried sefyll fel ymgeiswyr, cofrestru i bleidleisio a rhannu’r materion sydd bwysicaf iddyn nhw – beth hoffen nhw weld y Senedd Ieuenctid nesaf yn ei gymryd i ystyriaeth.

Yn ystod ymweliad ag Ysgol Uwchradd Hwlffordd, rhoddodd Finn Sinclair, cyn-Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, syniad i ddisgyblion o sut beth yw bod yn Aelod o’r Senedd Ieuenctid a’r holl gyfleoedd sydd ar gael – gan gynnwys cwrdd â phobl ifanc ledled Cymru, cydweithio ar ymgyrchoedd gwerth chweil, a gwneud cysylltiadau â'r wasg, gwleidyddion, Gweinidogion y Llywodraeth, ac ymgyrchwyr yn y gymdeithas sifil yng Nghymru. Soniodd hefyd am ei brofiad o gwrdd â'r Brenin.

Gwnaethon ni sgwrsio â chriw o bobl ifanc a oedd ar gwrs preswyl Plant yng Nghymru yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog, lle nodwyd mor bwysig yw hi i bobl ifanc Cymru ddefnyddio eu llais wrth drafod y materion sydd o bwys iddyn nhw.

Gyda chefnogaeth y tîm Addysg Allgymorth, rhoddodd Leola Roberts-Biggs, cyn-Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Alun a Glannau Dyfrdwy, araith ysbrydoledig fel rhan o agoriad digwyddiad Pride Ysgolion Sir y Fflint. Fe wnaethon ni hefyd gynnal stondin gwybodaeth Senedd Ieuenctid Cymru yn annog disgyblion o bob rhan o Sir y Fflint i gymryd rhan yn yr etholiad sydd i ddod.

Yn ddiweddar, cynhaliodd Amber sesiynau ar beth yw Senedd Ieuenctid Cymru gyda gofalwyr ifanc yn yr YMCA, sbardunodd frwdfrydedd yn Ysgol Ioan Fedyddiwr yn Aberdâr gyda chymorth Vikki Howells sy’n Aelod o’r Senedd, ac aeth i ffair yrfaoedd yn Ysgol Gyfun Bryn Celynnog i chwilio am Aelodau nesaf Senedd Ieuenctid Cymru.

Daeth Cerys Harts, cyn-Aelod o’r Senedd Ieuenctid yn cynrychioli Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, i’n stondin yn ystod y Sioe Frenhinol yn ddiweddar i annog eraill i sefyll i roi llais i bobl ifanc o gefndiroedd gwledig ac amaethyddol.

Wyt ti’n nabod pobl ifanc frwdfrydig sy’n angerddol dros yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw – mae amser o hyd i drefnu i aelod o’r tîm ymweld â dy ysgol, dy goleg neu dy grŵp ieuenctid. E-bostia ni - helo@seneddieuenctid.cymru

                             

                             

Pwy fydd Aelodau nesaf Senedd Ieuenctid Cymru? Rho gynnig arni!