Wythnos Gofalwyr 2020

Cyhoeddwyd 12/06/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

O ystyried yr holl bethau sy’n digwydd yn y byd a'r cyfryngau ar hyn o bryd, rwy'n credu ei bod yn deg dweud unwaith eto nad yw gofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion ifanc yn cael sylw.  Er bod gofalwyr yn cael eu canmol yn y wasg, beth am y gofalwyr ifanc nad ydynt yn cael eu talu na'u gwerthfawrogi’n iawn sy'n rhan hanfodol o'r economi a’r gymdeithas?

Rydym ni yma o hyd ac mae angen cymorth arnom yn fwy nag erioed gan fod ein rolau gofalu wedi cynyddu’n sylweddol. Rydym yn treulio mwy o amser gartref yn gofalu am ein hanwyliaid gan nad oes ysgol i fynd iddi ac nad yw’n bosibl cael seibiant. Oherwydd hyn, mae ein rolau gofalu wedi troi’n dasg enfawr 24/7 i raddau helaeth.

Allech chi ddychmygu'r pwysau ychwanegol ar bobl Ifanc yn ogystal â’r pandemig byd-eang hwn sydd eisoes yn peri anawsterau Iechyd meddwl i bobl ifanc ar draws Cymru a'r DU heb sôn am rolau gofalu.

Felly, yr wythnos gofalwyr hon rwy’n gofyn i chi ledaenu gair am yr arwyr nad oes sôn amdanynt sy'n helpu i sicrhau bod ein cymdeithas parhau i weithio y tu ôl i’r llenni drwy godi ymwybyddiaeth ym mha bynnag ffordd y gallwch. Diolch.