Wythnos Senedd Ieuenctid Cymru

Cyhoeddwyd 03/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ymunwch ag Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru mewn wythnos o sesiynau rhithiol rhwng y 13eg a’r 17eg o Orffennaf. Yn ystod yr wythnos, cewch gyfle i gyfrannu at ymgynghoriadau’r Senedd Ieuenctid, ymuno mewn sesiynau trafod a dadlau, yn ogystal â chymryd rhan mewn sawl gweithdy dan arweiniad rhai o wynebau adnabyddus Cymru.

Cewch holl fanylion yr wythnos, yn ogystal â manylion cofrestru a chymryd rhan isod.

 

Dydd Llun

10:00: Lansiad Wythnos Senedd Ieuenctid Cymru

Cadwch lygad ar Twitter, Facebook ac Instagram i glywed mwy am yr wythnos gan Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru.

14:00: Gweithdy - Y Gorau o’n Gwastraff

Ymunwch gyda ni am weithdy rhyngweithiol ar sbwriel a gwastraff plastig; bydd sgwrs gydag Aelod o’r Senedd Ieuenctid sy’n eistedd ar y Pwyllgor Sbwriel a Gwastraff Plastig, a gweithgareddau gyda sefydliad Eco-Ysgolion Cymru a Surfers Against Sewage. Ar ddiwedd y sesiwn bydd hefyd cyfle i chi gwblhau holiadur ‘Y Gorau o’n Gwastraff’ gan y Senedd Ieuenctid. Cynhelir y sesiwn yma drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cofrestrwch fan hyn ar gyfer y sesiwn.

 

Dydd Mawrth

10:00: Gweithdy - Beth sy’ ar eich meddwl?

Darganfyddwch sut mae'r Senedd yn gwneud penderfyniadau ar bethau sy'n effeithio ar eich bywydau o ddydd i ddydd. Cewch gyfarfod ag Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru a dweud eich dweud ar sut y gellid gwella cefnogaeth iechyd emosiynol a meddyliol i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Dyma gyfle gwych i gyfarfod â phobl ifanc eraill a chymryd rhan yn ein hymgynghoriad byw i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. Cynhelir y sesiwn yma drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cofrestrwch fan hyn ar gyfer y sesiwn.

13:00: Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn cyfarfod â’r Prif Weinidog

Am yr eildro yng nghyfnod y clo mawr, mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn cyfarfod â’r Prif Weinidog i drafod effaith Covid-19 ar fywydau pobl ifanc. Y tro hwn bydd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething AS yn ymuno i drafod effaith Covid-19 ar iechyd meddwl pobl ifanc, yn ogystal â Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan AS.

Sesiwn gaeedig fydd hon, ond bydd y cyfan ar gael i chi ei wylio drwy ein cyfryngau cymdeithasol cyn diwedd y dydd.

 

Dydd Mercher

10:00: Sesiwn Yoga

Ymunwch â Tara Bethan mewn sesiwn meddwlgarwch yoga 30 munud.

Does dim angen i chi gofrestru – gallwch ymuno â’r sesiwn drwy IGTV (Instagram TV) ar gyfrif Senedd Ieuenctid Cymru.

13:00 a 14:30: Gadewch i ni Siarad am Iechyd Meddwl

Dewch i drafod cefnogaeth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl yng nghwmni Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru a Siôn Jenkins – newyddiadurwr a gohebydd ITV Cymru, a chyflwynydd Y Byd ar Bedwar ac Ein Byd.

Cynhelir y sesiwn hon ddwywaith. Bydd sesiwn 13:00 drwy gyfrwng y Gymraeg a sesiwn 14:30 drwy gyfrwng y Saesneg.

Cofrestrwch fan hyn ar gyfer y sesiwn Gymraeg.
Cofrestrwch fan hyn ar gyfer y sesiwn Saesneg.

 

Dydd Iau

10:00: Gweithdy - Beth sy’ ar eich meddwl?

Darganfyddwch sut mae'r Senedd yn gwneud penderfyniadau ar bethau sy'n effeithio ar eich bywydau o ddydd i ddydd. Cewch gyfarfod ag Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru a dweud eich dweud ar sut y gellid gwella cefnogaeth Iechyd emosiynol a meddyliol i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Dyma gyfle gwych i
gyfarfod â phobl ifanc eraill a chymryd rhan yn ein hymgynghoriad byw i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. Cynhelir y sesiwn yma drwy gyfrwng y Saesneg.

Cofrestrwch fan hyn ar gyfer y sesiwn.

13:00 a 14:30: Dadl – Newid hinsawdd: Cyfrifoldeb pwy?

“Nid fy mhroblem i yw plastig, rydw i’n rhoi fy sbwriel yn y bin, mae ganddynt bobl am hynny”.

Ymunwch yn y ddadl. Steffan Griffiths, cyflwynydd a chynhyrchydd y tywydd ar S4C fydd yn cadeirio’r sesiwn. Bydd cyfraniadau gan Aelodau o’r Senedd Ieuenctid a phartneriaid ym maes Sbwriel a Gwastraff Plastig.

Cynhelir y sesiwn hon ddwywaith. Bydd sesiwn 13:00 drwy gyfrwng y Gymraeg a sesiwn 14:30 drwy gyfrwng y Saesneg.

Cofrestrwch fan hyn ar gyfer y sesiwn Gymraeg.
Cofrestrwch fan hyn ar gyfer y sesiwn Saesneg.

 

Dydd Gwener

10:00: Gweithdy - Y Gorau o’n Gwastraff

Ymunwch gyda ni am weithdy rhyngweithiol ar sbwriel a gwastraff plastig; bydd sgwrs gydag Aelod o’r Senedd Ieuenctid sy’n eistedd ar y Pwyllgor Sbwriel a Gwastraff Plastig, a gweithgareddau gyda sefydliad Eco-Ysgolion Cymru a Surfers Against Sewage. Ar ddiwedd y sesiwn bydd hefyd cyfle i chi gwblhau holiadur ‘Y Gorau o’n Gwastraff’ gan y Senedd Ieuenctid. Cynhelir y sesiwn yma drwy gyfrwng y Saesneg.

Cofrestrwch fan hyn ar gyfer y sesiwn.

11:00 Panel Trafod – Camau Nesaf: Pleidleisio’n 16

Dewch i gymryd rhan mewn sesiwn fydd yn trafod hawl pobl ifanc 16-17 oed i  bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau nesaf y Senedd yn 2021, yr heriau, materion sy’n bwysig i chi a’r adnoddau digidol sydd ar gael i helpu.

Cofrestrwch fan hyn ar gyfer y sesiwn.