Datganiad yr
Ymgeisydd: Helo. Fy enw i yw Ewan a hoffwn fod yn aelod o Senedd Ieuenctid
nesaf Cymru. Mae'n hawdd i ni fel pobl ifanc deimlo'n ddi-rym, a heb lais am yr
hyn sy'n digwydd yng Nghymru. Rydyn ni'n teimlo'n ddieithr, wedi ein gwahanu ac
wedi’n datgysylltu o'r byd o'n cwmpas. Nid yw hynny'n syndod - mae materion
iechyd meddwl ar gynnydd, Covid-19 yn bod o hyd, a'r argyfwng hinsawdd, felly
does dim rhyfedd fod y rhan fwyaf ohonom yn teimlo fel hyn. Rhaid inni beidio â
gadael i hyn ein rhwystro ni, fodd bynnag. Credaf y dylai pobl ifanc heddiw
gael llawer mwy o lais yn y dyfodol. Os caf fy ethol fel eich cynrychiolydd
byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i frwydro i leisio ein barn ar y
materion sy'n effeithio fwyaf arnom. Fel aelod o Gyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar
Ogwr, mae gen i brofiad o sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu clywed, ac rwy'n
gobeithio dod â hyn i Senedd Ieuenctid Cymru, fel y gallaf wrando ar eich llais,
a gwneud yn siŵr
ei fod yn ddigon uchel i bawb ei glywed. Rwyf eisiau dyfodol lle nad oes yr un
person ifanc yn teimlo'n anobeithiol, neu'n cael ei anwybyddu, neu ei
ddieithrio. Gobeithio eich bod chi yn teimlo’r un fath, ac y byddwch yn ystyried fy newis
i fel eich cynrychiolydd yn y Senedd Ieuenctid Cymru nesaf.