Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Ffion Williams

Ffion Williams

Gorllewin Caerdydd

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Yr amgylchedd
  • Mater Allweddol 2: Addysg
  • Mater Allweddol 3: Trafnidiaeth

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Diolch, Lywydd. Mae’n bleser bod yn y Senedd heddiw gyda’n sesiwn gyntaf ar y cyd rhwng Aelodau o’r Senedd a’r ail garfan o Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru. Gwn fy mod i a’m cyd-Aelodau...

Y Cyfarfod Llawn | 21/06/2023

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Ffion Williams

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Yn 2020, rhoddwyd yr hawl i bobl ifanc dros 16 oed bleidleisio, ond dim ond 46% o bobl ifanc 16-17 oed a gofrestrodd i bleidleisio.

Roedd hwn yn gyfle a wastraffwyd i sicrhau bod llais ieuenctid yn cael ei glywed a'i gynrychioli yn Llywodraeth Cymru.

Mae'r ymgyrchydd amgylcheddol Greta Thunberg wedi dangos nad ydych fyth yn rhy ifanc i gael gwir effaith mewn gwleidyddiaeth.

Yr Amgylchedd yw un o bwerau datganoledig Llywodraeth Cymru ac mae'r argyfwng hinsawdd yn golygu mai hon yw’r agenda fwyaf brys y byddaf yn ei gwthio.

Yn gysylltiedig â hyn, mae Trafnidiaeth yn fater byd-eang lle gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol ar lefel genedlaethol - a hyd yn oed yn lleol.

Addysg yw'r trydydd pŵer datganoledig y byddwn yn ei wneud yn flaenoriaeth gan fod angen inni fynd i'r afael â materion sgiliau a wnaed gymaint gwaeth gan yr ymyriadau oherwydd y pandemig. Ar ben hynny, bob dydd, mae merch yn colli'r ysgol oherwydd tlodi mislif.

Mae gan Senedd Ieuenctid Cymru rôl allweddol i'w chwarae o ran cynnwys pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth. Fel cyn-Bennaeth Cyngor Ysgol, mae gennyf yr hyder, yr angerdd a'r brwdfrydedd i'ch cynrychioli a sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.

Byddaf yn ymdrechu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ifanc.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Ffion Williams