Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Ruth Sibayan

Ruth Sibayan

Dwyrain Abertawe

Roedd Evan yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Ruth Sibayan

Bywgraffiad

Roedd Ruth yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Y cynnydd yn nifer y bobl ddigartref
  • Gostwng yr oed pleidleisio
  • Codi'r oedran ar gyfer gofal iechyd am ddim

Rwyf eisiau bod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd bod llawer o bobl yn sôn am bethau a ddylai newid ond yn ei chael hi’n anodd gwneud unrhyw beth am hynny. Rwyf eisiau casglu barn gan bobl sy'n teimlo nad oes ganddyn nhw lais a siarad ar eu rhan yn y Senedd. Mae yna lawer o bobl sy'n rhy swil, yn teimlo’n annifyr neu ddim yn mynd i drafferth i ddatgan unrhyw un o'u syniadau ond rwyf eisiau eu grymuso trwy siarad ar eu rhan.

Byddaf yn ymgynghori â phobl ifanc yn fy ardal drwy wrando arnyn nhw’n ofalus, gan gasglu eu syniadau a'u cynrychioli yn y Senedd. Byddaf yn rhoi sicrwydd i'r bobl ifanc y bydd eu lleisiau yn bendant yn cael eu clywed

Dylai etholwyr bleidleisio drosof i oherwydd byddaf yn gweithio'n galed ac rwy’n angerddol dros sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed a’u hawliau yn cael eu mynnu.

Rwy’n drefnus, yn gweithio'n galed, yn siaradwr da ac yn wrandäwr cryf. Rwy'n credu y byddaf yn gwneud Aelod da o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd bûm i’n aelod o'r Cyngor Ysgol am 2 flynedd. Roeddwn i hefyd yn Llysgennad Cymru am flwyddyn. Rwy'n gwneud gwaith elusennol gyda fy nheulu, sydd wedi cynnwys cymryd rhan mewn teithiau cerdded 5 cilometr a thaith beic 12 cilometr.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Ruth Sibayan