Rwyf eisiau bod
yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd bod llawer o bobl yn sôn am bethau a
ddylai newid ond yn ei chael hi’n anodd gwneud unrhyw beth am hynny. Rwyf
eisiau casglu barn gan bobl sy'n teimlo nad oes ganddyn nhw lais a siarad ar eu
rhan yn y Senedd. Mae yna lawer o bobl sy'n rhy swil, yn teimlo’n annifyr neu
ddim yn mynd i drafferth i ddatgan unrhyw un o'u syniadau ond rwyf eisiau eu
grymuso trwy siarad ar eu rhan.
Byddaf yn
ymgynghori â phobl ifanc yn fy ardal drwy wrando arnyn nhw’n ofalus, gan gasglu
eu syniadau a'u cynrychioli yn y Senedd. Byddaf yn rhoi sicrwydd i'r bobl ifanc
y bydd eu lleisiau yn bendant yn cael eu clywed
Dylai etholwyr
bleidleisio drosof i oherwydd byddaf yn gweithio'n galed ac rwy’n angerddol
dros sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed a’u hawliau yn cael eu mynnu.
Rwy’n drefnus, yn
gweithio'n galed, yn siaradwr da ac yn wrandäwr cryf. Rwy'n credu y byddaf yn
gwneud Aelod da o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd bûm i’n aelod o'r Cyngor
Ysgol am 2 flynedd. Roeddwn i hefyd yn Llysgennad Cymru am flwyddyn. Rwy'n
gwneud gwaith elusennol gyda fy nheulu, sydd wedi cynnwys cymryd rhan mewn
teithiau cerdded 5 cilometr a thaith beic 12 cilometr.