Fy enw i yw Greta
Evans, dwi‘n bymtheg oed, ac yn byw yng ngorllewin Caerdydd. Ar y foment, dwi
ym mlwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, ac yn astudio Almaeneg,
Ffrangeg, a Daearyddiaeth fel pynciau TGAU.
Mae gen i
ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth, a dwi‘n mwynhau canu‘r delyn a chwarae
tennis yn fy amser rhydd.
Dwi’n credu fod
llais pobl ifanc mewn materion gwleidyddol cenhedlaethol yn hollbwysig, felly
bydd yn fraint gallu bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, yn cynrychioli
llais yr Urdd, yn ogystal â llais cenhedlaeth ifanc Cymru.