Mae gennyf
ddiddordeb brwd mewn gwleidyddiaeth a hoffwn weld mwy o leisiau pobl ifanc yn
cael eu clywed ar blatfformau ehangach. Os caf fy ethol byddaf yn ymgynghori’n
eang â phobl ifanc fy ardal drwy greu fforwm a fyddai’n cwrdd yn dymhorol er
mwyn iddynt gael y cyfle i gyflwyno syniadau neu leisio’u barn am yr hyn sy’n
eu poeni ac yna bwydo hyn nôl i’r Senedd Ieuenctid. Pleidleisiwch drosto i
oherwydd byddaf yn sicrhau y bydd y Senedd yn gweithredu dros hawliau
pobl ifanc yn ogystal â gweithio i wella’r gefnogaeth a roddir i’r rheiny sy’n
dioddef iechyd meddwl.
Yn ychwanegol at
hyn byddai’n ceisio creu perthynas dda gyda Senedd Ieuenctid yr Alban gan
ddysgu wrth eu harferion da nhw. Mae gennyf sgiliau cyfathrebu da iawn yn y
Gymraeg a’r Saesneg. Rwy’n berson creadigol sy’n gweithio’n dda fel aelod o dîm
ond rwyf hefyd yn hyderus i arwain pan fo angen. Fy mlaenoriaethau fel Aelod
o’r Senedd Ieuenctid fyddai gwella sefyllfa iechyd meddwl drwy sefydlu
pwyllgorau lles ym mhob ysgol a choleg, anelu at Gymru ddi-blastig drwy leihau
gwerthiant poteli plastig ym mhobman a sefydlu grant blynyddol er mwyn sicrhau
bod gwisg ac adnoddau ysgol yn fforddiadwy i bawb.