Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Tegan Skyrme

Tegan Skyrme

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Learning Disability Wales

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Anableddau
  • Iechyd meddwl
  • Materion ac ymwybyddiaeth LHDTC+

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Y Cyfarfod Llawn | 21/06/2023

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Tegan Skyrme

Bywgraffiad

Datganiad yr Ymgeisydd: Credaf y dylid cynrychioli pobl ag anableddau. Cefais fy ngeni â nam ar fy ngolwg felly rwy'n gwybod sut mae'n teimlo i orfod gweithio'n galetach i fod yn gyfartal â'm cyfoedion, a sut beth yw peidio â chael y cymorth cywir. Rwyf hefyd yn gwybod sut beth yw cael fy nhrin yn wahanol oherwydd fy anabledd a bod yn aelod o'r gymuned LHDTC+, grŵp arall rwy'n falch o'i gynrychioli.

Byddwn yn eiriolwr da dros newid ac yn rhoi llais i eraill, gan gynnwys y rhai mewn ardaloedd gwledig. Rwy'n mwynhau dadleuon a rhoi cyflwyniadau ond rwy'n cadw meddwl agored, yn gwrando ar eraill, yn parchu eu credoau ac yn gweithio'n dda mewn grŵp. Roeddwn yn arfer bod yn aelod o'r cyngor ysgol yr oeddwn yn mwynhau hynny. Rwyn angerddol dros y celfyddydau perfformio felly rwy'n gyfforddus o flaen torfeydd a gallaf daflu fy llais. Maen hawdd dod ataf ac ryw’n hapus i addysgu pobl am fy anabledd.

Yn ddiweddar, fe wnes i sesiwn i ysgol gynradd am fyw gyda nam ar y golwg. Dysgodd hyd yn oed yr athrawon lawer! Fe wnes i ysbrydoli person ifanc â nam ar y golwg i fod yn fwy hyderus a pheidio â gadael i'w anabledd ei atal rhag rhoi cynnig ar bethau newydd a bod yn annibynnol.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Tegan Skyrme