Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Zach Davis

Zach Davis

Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Materion Iechyd Meddwl
  • Materion cynhesu byd-eang
  • Y Gymuned LHDTC+ mewn ysgolion

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Zach Davis

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb mewn ceisio datrys materion o'm cwmpas, a phan edrychaf ar y byd y dyddiau hyn, y cyfan a welaf yw’r problemau yn Afghanistan, y gwahaniaethu yn erbyn pobl o wahanol hil a’r gymuned LHDTC+ a'r stigma sy’n bodoli o ran iechyd meddwl. Felly dyna pam ddewisais y rhain.

Dewisais faterion iechyd meddwl mewn ysgolion ac effaith ysgolion arno oherwydd bod cymaint o stigma yn ymwneud ag iechyd meddwl. Mae'n fater pwysig oherwydd mae 2 o bob 6 person mewn ysgol yn dioddef o salwch meddwl fel iselder a phryder ar draws Cymru, ac mae angen gwneud rhywbeth i ddatrys y mater. 

Dewisais faterion Cynhesu Byd Eang a’r effaith rydym ni’n ei chael arno, oherwydd mae'r byd yn marw a dyma’r lle rydym ni’n byw, felly os nad oes planed ar ôl, ni fyddwn ni ar ôl. Mae hyn yn bwysig achos ein bai ni yw hyn, ac mae angen i ni ddatrys y broblem.

Dewisais faterion LHDTC+ oherwydd mae gormod o straeon trist am ymateb pobl i’r gymuned LHDTC+, a gall ysgolion chwarae rôl fawr o ran cefnogaeth a chymorth i’r gymuned LHDTC+ ifanc.

Fel aelod o Senedd Ieuenctid Cymru fe fyddwn yn helpu i roi llais i’r bobl ifanc.

Dewiswch fi fel siaradwr ar gyfer Llais Ieuenctid Cymru. Diolch

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Zach Davis