Ein stori ni
Pan sefydlwyd y Senedd ym 1999, crëwyd Gwasanaeth Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc pwrpasol, gan roi cyfle i blant a phobl ifanc yng Nghymru ddysgu am waith y Senedd a chymryd rhan ynddo.
Ers hynny, mae tîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc y Senedd wedi gweithio gyda degau ar filoedd o blant a phobl ifanc ledled Cymru, gan rannu gwybodaeth a chynnwys pobl ifanc yng ngwaith y Senedd.
Darganfod. Dadlau. Dewis.
Erbyn hyn, mae'r siambr drafod wreiddiol a ddefnyddiwyd gan Aelodau o'r Senedd (1999-2007) yn gartref i ganolfan addysg y Senedd, Siambr Hywel. Yma, gall grwpiau ddysgu am waith y Senedd, trafod materion a darganfod sut y gallant gymryd rhan a chyfrannu at benderfyniadau a wneir gan Aelodau o'r Senedd.
Mae’r tîm Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc hefyd yn cynnig gweithgareddau a chyfleoedd i drafod gwaith y Senedd a materion gwleidyddol mewn ysgolion a cholegau, yn ogystal â grwpiau a chlybiau y tu hwnt i’r amgylchedd addysg, ledled Cymru.
Dangos ymrwymiad - llofnodi'r Siarter Ymgysylltu â Phobl Ifanc
Er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yng Nghymru yn gallu mynegi eu barn a bod rhywun yn gwrando arnynt, llofnododd y Senedd Siarter Ymgysylltu â Phobl Ifanc yn 2014. Mae’r Siarter yn nodi ymrwymiad y Senedd i sicrhau ei bod yn gwrando ar yr hyn mae pobl ifanc ledled Cymru yn ei ddweud, yn parchu hynny ac yn gweithredu arno.
Roedd y Siarter yn cynnwys ymrwymiad i’w gwneud yn haws i bobl ifanc ddysgu mwy am y Senedd a’r hyn mae’n ei wneud, cymryd rhan mewn dadleuon a dysgu sut mae eu cyfraniadau’n gwneud gwahaniaeth.
Sicrhau newid – Senedd Ieuenctid i Gymru
Ers i'r Senedd wneud ei hymrwymiad, dywedodd llawer o bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol (gyda chefnogaeth yr Ymgyrch am Gynulliad Plant a Phobl Ifanc i Gymru) wrth Senedd Cymru yr hoffent sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru.
Cytunodd yr Aelodau o’r Senedd.
Ym mis Hydref 2016, pleidleisiodd Aelodau o’r Senedd i sefydlu senedd ieuenctid penodedig i Gymru.
Ymgynghorodd y Senedd â dros 5,000 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru i helpu i benderfynu ar nod, aelodaeth a gwaith Senedd Ieuenctid Cymru.
Etholwyd Senedd Ieuenctid cyntaf Cymru ym mis Rhagfyr 2018, a threuliwyd y ddwy flynedd wedi hynny yn gweithio gyda’i gilydd, gydag Aelodau o’r Senedd a gyda phobl ifanc o bob rhan o Gymru i godi ymwybyddiaeth o faterion ac i alw am newid, yn enwedig ar y tri mater y dewisodd Aelodau Senedd Ieuenctid cyntaf Cymru eu blaenoriaethu:
Y Drydedd Bennod
Mae’r drydedd Senedd Ieuenctid Cymru wedi dechrau, ac mae 60 o bobl ifanc Newydd wedi eu dewis i gynrychioli pobl ifanc Cymru.
Gwyliwch nhw ar senedd.tv
Cyfarfod yr aelodau am y tro cyntaf yn fis Chwefror, lle buont hefyd yn penderfynu ar y tri mater pwyllgorau byddant yn canolbwyntio ar drwy’r tymor;
Am fwy o wybodaeth am y Drydedd Senedd Ieuenctid Cymru cofrestrwch ar y cylchlythyr.