Rydym am glywed eich barn am Senedd TV. Cymerwch ran yn ein harolwg byr i’n helpu i wella’r gwasanaeth.
Trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol - SIC3
Wyt ti rhwng 11 ac 18 oed ac yn byw yng Nghymru?
Mae Senedd Ieuenctid Cymru eisiau clywed am dy brofiadau o deithio o gwmpas Cymru.
P'un a wyt ti’n defnyddio’r bws neu’r trên, yn cerdded, yn olwyno neu'n beicio, rydyn ni eisiau gwybod beth sy'n gweithio'n dda a beth sydd angen ei wella.
Bydd dy adborth yn helpu Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru i ddatblygu argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol.
Gweithgaredd pwyllgor diweddaraf
Dweud dy ddweud ar drafnidiaeth yng Nghymru
- Wyt ti’n meddwl bod prisiau tocynnau bws yn rhy ddrud?
- Ydy bysiau neu drenau yn annibynadwy lle rwyt ti’n byw?
- Wyt ti’n teimlo'n ddiogel wrth gerdded, olwyno neu feicio?
- Oes lle i drafnidiaeth fod yn fwy hygyrch i bobl ifanc anabl?
Rydyn ni eisiau gwybod am dy brofiadau.
Llenwa ein harolwg Ffyrdd at Yfory a dweud wrthon ni beth fyddai’n ei gwneud yn haws i bobl ifanc deithio o yng Nghymru.
Pwy sy’n gallu cymryd rhan?
Unrhyw un rhwng 9 a 21 oed.
Pam mae hyn yn bwysig?
Bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn defnyddio dy adborth i helpu i ddatblygu argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Angen cymorth?
Mae fersiwn hawdd ei darllen o’r arolwg ar gael.
Cysyllta ag helo@seneddieuenctid.cymru os oes gen ti unrhyw gwestiynau neu os oes angen yr arolwg mewn fformat arall.