Meddyliau Iau o Bwys : crynodeb o'r adroddiad iechyd meddwl

Mae iechyd meddwl a llesiant yn fater mawr i lawer o bobl ifanc yng Nghymru.

Mae data’n dangos bod y duedd hon ar gynnydd ac, er gwaethaf y ffaith bod mwy o arian yn cael ei wario i wella’r sefyllfa, rydym ni fel ASICau’n gwybod o’n profiadau ein hunain ac o siarad â phobl ifanc eraill nad yw’r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd yn ddigon da.

Yn anffodus, nid oedd canfyddiadau ein hymgynghoriad yn syndod i ni; maent yn cadarnhau ein cred bod cryn dipyn o waith i’w wneud os ydym am weld newid gwirioneddol o ran llesiant emosiynol a meddyliol pobl ifanc.

 


Fersiwn hawdd i ddarllen yr adroddiad ›

 


Prif ganfyddiadau

Clywsom fod:

  1. Y tri prif reswm sy’n achosi pobl ifanc i gael trafferth â’u hiechyd meddwl yw – Gwaith ac arholiadau yn eu lleoliad dysgu. Perthnasoedd gyda ffrindiau a theulu. Pori ar y cyfryngau cymdeithasol, a chael eu targedu neu eu trolio ar y cyfryngau cymdeithasol.
  2. Dywedodd 65 y cant o bobl ifanc wrthym eu bod yn cael trafferth gyda'u hemosiynau a'u hiechyd meddwl o leiaf unwaith bob pythefnos, ond dim ond 23 y cant ddywedodd eu bod wedi ceisio cael cymorth.
  3. Nid yw maint y cymorth sydd ar gael mewn lleoliadau addysg yn bodloni’r galw, gyda dim ond 27 y cant o bobl ifanc yn dweud bod maint y cymorth yn dda.
  4. Dywedodd 44 y cant o’r rhai a gafodd cymorth gan CAMHS wrthym eu bod wedi gorfod aros mwy na’r targed 28 diwrnod ar gyfer apwyntiadau cyntaf a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, gyda 13 y cant yn aros rhwng 6 a 12 mis. Roedd angen i 27 y cant aros mwy na mis am eu hail apwyntiad

Ein casgliadau

EICH EMOSIYNAU A'CH IECHYD MEDDWL

O gymharu ymatebion i’n harolwg â’r rhai a gafwyd i arolwg y Senedd Ieuenctid yn 2020, gwelir nad oes fawr ddim gwahaniaeth o ran pa mor aml y bydd pobl ifanc yn cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl.

Mae casgliadau ein hymgynghoriad yn pwysleisio pa mor bwysig yw'r mater hwn, ac yn dwysáu ein pryderon fel Aelodau Senedd Ieuenctid nad yw'r camau a gymerwyd yn dangos y gwelliant yr ydym am ei weld.

Mae pobl ifanc yn dioddef anawsterau o ran eu llesiant meddyliol cymaint ag yr oeddent ddwy flynedd yn ôl, ac er ein bod yn cydnabod bod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi gweld heriau unigryw iawn, rydym o’r farn bod hyn yn bennaf oherwydd diffygion yn y ffordd y mae pobl ifanc yn cael eu cefnogi.

Mae’r niwed ychwanegol y mae pobl ifanc o gymunedau ymylol yn ei hwynebu hefyd yn destun pryder mawr. Maen nhw’n yn delio nid yn unig â’r heriau sy’n gyffredin i bob person ifanc wrth dyfu i fyny, ond hefyd fwlio ac ymddygiad camdriniol, sydd yn ei dro’n rhoi straen ychwanegol ar eu llesiant meddyliol.

Mae'r ymddygiad hwn yn annerbyniol ac mae angen mynd i'r afael ag ef fel blaenoriaeth.

 

"Gall diffyg triniaeth i’r rhai sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl arwain at gorbryder, anobaith, a cholli rheolaeth. Ond pan gaiff hyn ei newid er gwell, gallwn fod y bobl rydyn ni i fod a gweld ystyr i’n bywydau o ddydd i ddydd. Mae iechyd meddwl yr un mor bwysig ag unrhyw fath arall o iechyd."

Isaac Floyd-Eve - Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru, Ynys Môn


YMWYBYDDIAETH A DEALLTWRIAETH

Mae’n hanfodol nodi arwyddion cynnar problemau iechyd meddwl posibl, a chredwn fod pobl ifanc yn dod yn fwy ymwybodol o’u hiechyd meddwl, gyda mwy o bwyslais a mwy o drafod, sy’n beth cadarnhaol i’w weld.

Fodd bynnag, mae'n amlwg i ni fod lle i wneud mwy i godi ymwybyddiaeth ymhellach. Rydym wedi clywed yn gyson bod cael gwybodaeth ddibynadwy ynglŷn â ble a sut i gael cymorth yn gallu bod yn llethol.

Yn adroddiad y Senedd Ieuenctid gyntaf ar y mater hwn yn 2020, argymhellwyd sefydlu “pwynt cyswllt uniongyrchol adnabyddus ar gyfer gwybodaeth, adnoddau a chymorth”. Mae ein tystiolaeth yn dangos nad yw hyn wedi digwydd, gan nad yw digon o bobl ifanc yn gwybod i ble y dylent fynd i gael adnoddau ar gyfer cymorth.

Rydym yn credu ei bod yn hollbwysig cael y pwynt cyswllt uniongyrchol yn iawn. Dylai gynnig arweiniad i’r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, addysgu ymarferion llesiant ac ymwybyddiaeth ofalgar, dangos sut i helpu rhywun rydych yn ei adnabod os credwch fod angen cymorth ar y person hwnnw, a chyfeirio at adnoddau a llinellau cymorth eraill. Dylai'r pwynt canolog hwn ar gyfer gwybodaeth ac adnoddau iechyd meddwl gael ei hysbysebu'n dda ar raddfa genedlaethol.

Mae pryderon eraill gennym, yn cynnwys y ffaith bod y stigma ynghylch trafod emosiynau anodd yn broblem fawr o hyd, ac o ganlyniad mae nifer y bobl ifanc a fyddai’n ceisio cymorth yn isel.

Rydym yn croesawu dull ysgol gyfan Llywodraeth Cymru, ac yn cytuno mai prif ffrydio iechyd meddwl a llesiant ym mhob agwedd ar ddysgu yw’r dull cywir ar gyfer codi ymwybyddiaeth a mynd i’r afael â stigma. Teimlwn ei bod yn bwysig cael y trafodaethau hyn yn gyson, ac o oedran cynnar.

Clywsom gan nifer o bobl ifanc a oedd yn teimlo bod angen i leoliadau addysg greu mwy o fannau diogel i bobl ifanc drafod eu teimladau, a hwyluso mwy o gyfleoedd ar gyfer cymorth gan gymheiriaid.

Mae canlyniadau ein harolwg unwaith eto yn dangos bod pobl ifanc yn teimlo’n fwyaf cyfforddus yn siarad â’u teuluoedd a’u ffrindiau ac, i raddau llai, eu hathrawon am eu llesiant emosiynol a meddyliol.

Credwn ei bod yn bwysig cydnabod hyn a bod camau'n cael eu cymryd i fuddsoddi i ddarparu'r offer i deuluoedd a ffrindiau adnabod arwyddion yn well, a chyfeirio at wybodaeth ddefnyddiol a’i darparu.

 

"Er bod ymwybyddiaeth yn cynyddu, nid yw ein gallu i ddelio â’r her hon yn cadw i fyny."

Laura Green - Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru, Delyn


CAEL GAFAEL AR GYMORTH YN EICH LLEOLIAD ADDYSG

Clywsom yn uchel ac yn glir nad yw maint y cymorth sydd ar gael mewn lleoliadau addysg yn agos at fodloni’r galw.

O ran cymorth, rydym am i bobl ifanc sydd angen cymorth allu cael gafael arno’n gyflym, i’r cymorth hwnnw fod o safon dda, ac i ddilyniant fod yn y ddarpariaeth, ond mae canfyddiadau ein hymgynghoriad a’n profiadau fel Aelodau Senedd Ieuenctid yn dweud wrthym ein bod ymhell i ffwrdd o gyflawni hynny.

Mewn gwirionedd, credwn y dylem fod yn gwthio ymhellach, drwy geisio darparu cymorth megis gwasanaethau cwnselwyr ysgol i bobl ifanc sydd heb ei geisio,  fel mesur ataliol ac i helpu i fynd i'r afael â stigma. Teimlwn y byddai hyn yn arwain at ganran uwch o bobl ifanc yn ymgysylltu i gael cymorth.

Mae stigma ynghylch cael cymorth mewn lleoliadau addysg yn broblem fawr. Mae angen cymryd camau i fynd i’r afael â stigma, ond mae angen i leoliadau addysg hefyd greu amgylchedd lle mae pobl ifanc yn teimlo’n gyfforddus i siarad. Mae hyn yn hanfodol. Rhaid i fynediad at gymorth greu argraff gyntaf gadarhaol ar bobl ifanc neu mae’n bosibl y byddant yn lle hynny yn troi yn ôl at geisio ymdopi ar eu pennau eu hunain.

Unwaith eto, daeth y themâu i'r amlwg yn adroddiad y Senedd Ieuenctid gyntaf yn ôl yn 2020, pan alwyd am i gwnselwyr gael mwy o amser i gefnogi pobl ifanc a chynnig mwy o wasanaethau cymorth lle mae’r bobl ifanc yn aros yn ddienw. Er gwaethaf y cynnydd yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru i ehangu'r cynllun cwnsela mewn ysgolion, nid ydym yn teimlo bod digon o gynnydd wedi cael ei wneud.

Mae angen sicrhau bod adnoddau ar gael i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar bobl ifanc. Mae llawer o athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill eisoes dan lawer iawn o straen, felly rydym yn credu ei bod yn bwysig nad nhw yn unig sy’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb, a bod lleoliadau addysg yn gallu dod â chymorth trydydd parti ychwanegol i mewn lle bo hynny’n briodol. Mae angen gwneud mwy i gefnogi grwpiau amrywiol o bobl ifanc, i ddeall yn well yr heriau sy’n eu hwynebu. Dylai rhaglenni hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc ac yn eu cefnogi geisio mynd i'r afael â hyn.

Mae angen mwy o bwyntiau cysylltu lle mae pobl ifanc yn gallu cael cymorth, nid yn unig yn eu lleoliadau addysg, ond yn eu cymunedau yn ehangach.

Dywedodd Comisiynydd Plant blaenorol Cymru yn ei hadroddiad 'Dim Drws Anghywir':

“Mae angen i ranbarthau symud yn gyflym tuag at ddull ‘dim drws anghywir’ wrth ymateb i anghenion llesiant emosiynol a iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae hynny’n golygu na ddylen nhw gael clywed droeon eu bod yn curo ar y drws anghywir wrth geisio cael cymorth. Gallai hyn gynnwys modelau panel neu hwb i ddarparu cymorth cydlynus yn brydlon, canolfannau galw heibio, timau amlddisgyblaeth, modelau sy’n sicrhau bod angen i lai o blant a phobl ifanc fynd oddi cartref i gael gofal arbenigol, neu gynlluniau ar gyfer gofal preswyl arbenigol yn nes adref.”

Dywedodd pobl ifanc wrthym, ac rydym yn cytuno, fod angen gwneud mwy yma, ac mae angen cysondeb drwy’r wlad.

 

"Dylai cwnsela fod yn fwy hygyrch i bawb, gyda rhestrau aros byrrach, a dylai fod mwy o sesiynau am gyfnodau hirach, fel y gallwch chi fynd unrhyw bryd, fel gyda'r nos ac ar benwythnosau, achos efallai mai dyma'r unig amser rydych chi'n teimlo'n gyfforddus yn mynd. Peidiwch â'i ddarparu mewn ysgolion a cholegau yn unig."

Georgia Miggins - Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru, Anabledd Dysgu Cymru


CAEL MYNEDIAD AT GYMORTH ARBENIGOL

Gofynnwyd i bobl ifanc am eu profiadau o gael mynediad at gymorth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS). Dywedodd 44 y cant o’r rhai a oedd wedi cael cymorth CAMHS wrthym eu bod wedi gorfod aros yn hirach na’r targed o 28 diwrnod a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer apwyntiad cyntaf.

Credwn y byddai camau i annog ymyrraeth gynharach, fel y’i hamlinellwyd eisoes yn yr adroddiad hwn, yn helpu i leihau’r baich ar y cymorth mwy arbenigol mae CAMHS yn ei ddarparu.

Argymhellodd y Senedd Ieuenctid gyntaf y dylid adolygu CAMHS fel mater o frys, er mwyn lleihau amseroedd aros a darparu'r cyllid a'r capasiti i ddarparu cymorth angenrheidiol. Mae ein hymgynghoriad yn dweud wrthym fod dirfawr angen mwy o waith yn y maes hwn, gan fod y materion a amlygwyd gan ein rhagflaenydd yn 2020 yr un mor berthnasol heddiw, a gall yr effaith y mae’n ei chael ar bobl ifanc yn y cyfamser fod yn ddinistriol.

Rydym am weld CAMHS yn cael eu diwygio a'i hailwampio. Gwyddom fod y system yn methu, ac oherwydd hyn yr ydym yn poeni na chaiff y buddsoddiad ariannol pellach hwnnw’r effaith a ddymunir.

 

"Mae gwylio mewn anobaith wrth i rai o fy ffrindiau agosaf wingo o dan afael haearnaidd anhwylder meddwl a rhoi’r gorau i geisio cael cymorth oherwydd pwy a ŵyr pa mor hir yw’r rhestrau aros, a nhw’n gwybod na fyddai’n gwneud unrhyw les iddyn nhw ta beth, yn ddim byd llai na thrasiedi."

Isaac Floyd-Eve - Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru, Ynys Môn

EIN HARGYMHELLION

Beth ydym ni eisiau ei weld yn newid?

Rydym yn galw am:

  1. Cynnydd yn y sylw a roddir i iechyd meddwl, ac ym maint y cymorth sydd ar gael yn ystod cyfnodau arholiadau i helpu pobl ifanc yn ystod cyfnodau o straen mawr.
  2. Dylid cymryd camau i fynd i’r afael ag anoddefgarwch pan fydd pobl ifanc yn cael eu haddysg, i hysbysu pobl ifanc i ddeall gwahanol ddiwylliannau, safbwyntiau a chredoau fel bod pob person ifanc yn cael ei drin â pharch ac urddas.
  3. Pwynt cyswllt uniongyrchol adnabyddus ar gyfer gwybodaeth, adnoddau a chymorth, yn unol ag argymhelliad y Senedd Ieuenctid gyntaf yn 2020.
  4. Mwy o bwyslais ar sicrhau bod gan deuluoedd a ffrindiau y gallu i gefnogi pobl ifanc, gan gynnwys darparu hyfforddiant, gwybodaeth a deunyddiau i alluogi’r bobl y mae pobl ifanc yn ymddiried ynddynt i helpu’n well.
  5. Lleoliadau addysg i fabwysiadu’r dull o ymgorffori iechyd meddwl a llesiant ym mhob agwedd ar y profiad addysg, ac iddynt ddysgu ei gilydd ynglŷn â beth sy’n gweithio orau yn ymarferol, i sicrhau bod y profiad mor gyson â phosibl i bobl ifanc ym mhob rhan o Gymru.
  6. Cynnydd yn nifer y lleoedd yn y gymuned, canolfannau cymorth lleol lle y gall pobl ifanc gael mynediad at wybodaeth, a siarad â phobl am eu hiechyd meddwl.
  7. Rhaglenni hyfforddi i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc ac yn eu cefnogi i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r heriau iechyd meddwl y mae pobl ifanc o gefndiroedd gwahanol yn eu hwynebu fel pobl niwroamrywiol, pobl ag anabledd, aelodau o’r gymuned LHDTC+, pobl mewn tlodi, a phobl o ethnigrwydd gwahanol.
  8. Lleoliadau addysg i gael yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ddarparu cymorth mwy amserol, cyson a pharhaus, ac o ansawdd da i’r bobl ifanc hynny sydd angen cymorth gyda’u hemosiynau a’u hiechyd meddwl, a cheisio prif ffrydio cymorth megis gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion i bob person ifanc, gan gynnwys y bobl ifanc hynny sydd heb geisio cael cymorth.
  9. Lleoliadau addysg i greu mwy o fannau diogel i bobl ifanc siarad â phobl ifanc eraill a gweithwyr proffesiynol a gwneud mwy i roi sicrwydd i bobl ifanc eu bod yn gallu ceisio cymorth yn breifat ac yn gyfrinachol.
  10. Gwell cefnogaeth i bobl ifanc, a hynny’n gynharach er mwyn lleihau'r galw ar CAMHS.
  11. Diwygio CAMHS yn dilyn adolygiad o’r gwasanaeth, er mwyn lleihau amseroedd aros, a gwella ansawdd y cymorth.
  12. Gwell cysylltiad rhwng y gwahanol bwyntiau cyswllt sydd gan bobl ifanc o ran eu hemosiynau a’u hiechyd meddwl, megis lleoliadau addysg, CAMHS ac AMHS.

Lawrlwythiadau a rhagor o wybodaeth