Cipolwg ar Anabledd Dysgu Cymru

Cyhoeddwyd 03/12/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 06/12/2021   |   Amser darllen munudau

Elusen genedlaethol sy'n cynrychioli'r sector anabledd dysgu yng Nghymru yw Anabledd Dysgu Cymru.  Rydym am i Gymru fod y wlad orau yn y byd i bobl ag anabledd dysgu fyw, dysgu a gweithio. 

Rydym yn gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd, Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, sefydliadau pobl anabl a'r sector gwirfoddol fel y gallwn greu Cymru well i bawb ag anabledd dysgu. 

Rydym yn darparu gwasanaeth gwybodaeth i bobl ag anabledd dysgu, teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. 

Rydym yn cynnig hyfforddiant a digwyddiadau i godi ymwybyddiaeth, gwella sgiliau, rhannu arfer da a thynnu sylw at y materion sy'n wynebu pobl ag anabledd dysgu ledled Cymru. 

Mae ein gwaith polisi yn sicrhau bod lleisiau pobl ag anabledd dysgu, eu teuluoedd a'r rhai sy'n eu cefnogi yn cael eu clywed, a’u bod yn cael ymateb.  

Rydym hefyd yn rheoli amrywiaeth o brosiectau a rhwydweithiau sy'n cynnig cefnogaeth mewn meysydd penodol, a chyfle i rannu gwybodaeth, profiad ac arfer da. 

Mae Engage to Change, ein prosiect cyflogaeth â chymorth, yn gweithio mewn partneriaeth ledled Cymru i gefnogi pobl ifanc 16-25 oed sydd ag anhawster dysgu, anabledd dysgu a / neu awtistiaeth, i gyflawni eu potensial llawn.  

Mae Ffrindiau Gigiau Cymru yn gynllun cyfeillio sy'n paru pobl ag anabledd dysgu â gwirfoddolwr sydd â'r un diddordebau, fel y gallant fynd i gigiau a digwyddiadau gyda'i gilydd. Gydag ychydig o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yn ystod y pandemig, mae'r angen am gyfeillgarwch a chyswllt cymdeithasol yn bwysicach nag erioed. 

Trwy gydol y pandemig rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod gan bobl  ag anabledd dysgu a'r rhai sy'n eu cefnogi fynediad at wybodaeth hygyrch o ansawdd da. Fe wnaethom sefydlu adran newydd ar ein gwefan i rannu adnoddau am y pandemig, gan gynnwys gwybodaeth hawdd ei darllen ar sut i gadw mewn cysylltiad a gofalu am eich iechyd meddwl. Gwnaethom hefyd sicrhau bod profiadau pobl ag anabledd dysgu yn ystod y pandemig wedi cael eu dal a'u rhannu â llunwyr polisi. 

Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Senedd Ieuenctid Cymru eto gan gefnogi dau o bobl ifanc i gymryd rhan a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Mae bod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn rhoi cyfle i bobl ifanc anabl ddatblygu eu sgiliau, cynyddu eu hyder, rhannu eu profiadau a rhoi llais i bobl ifanc anabl eraill.