Cipolwg ar: CFfI Cymru

Cyhoeddwyd 31/12/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/12/2021   |   Amser darllen munudau

Yma yn Senedd Ieuenctid Cymru, ry’n ni’n falch i weithio gyda sefydliadau arbennig sy’n gweithio gyda phobl ifanc o bob cefndir ar draws Cymru. Yn ystod ei hail dymor, bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn gweithio gyda 18 sefydliad partner, a dros y misoedd nesaf, byddwn yn cymryd cipolwg ar bob un ohonynt ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol.

Yr wythnos hon, rydym yn cymryd cipolwg ar ein sefydliad partner Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru.

Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru

Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn fudiad gwirfoddol i ieuenctid Cymru sy’n gweithredu yn ddwyieithog ledled y wlad.

Mae gan CFfI Cymru dros 5,000 o aelodau rhwng 10 a 26 mlwydd oed ar draws Gymru, trwy rwydwaith o 12 ffederasiwn sirol a 157 o glybiau.

Darllenwch am obeithion dau aelod o CFfI Cymru ar gyfer 2022.

Aled Thomas, Cadeirydd y Pwyllgor Marchnata a Digwyddiadau

Fy enw i yw Aled Thomas. Rwy’n dod o Sir Benfro ac rwy’n Gadeirydd Pwyllgor Marchnata a Digwyddiadau CFfI Cymru. Dyma fy nhrydedd flwyddyn fel cadeirydd y pwyllgor sy’n cynnwys llawer o gynrychiolwyr o nifer o siroedd Cymru, rhywbeth sy’n sicrhau trafodaeth dda ym mhob cyfarfod. Rydw i’n edrych ymlaen i weithio gydag Elliw Griffith, is-gadeirydd y pwyllgor ar hyn o bryd.

I fi, bu CFfI wastad yn llawer mwy na chystadlu a theithio’n unig. Mae’n golygu dod â phobl o’r un anian at ei gilydd o fewn y gymuned amaethyddol. Bu hyn yn bwysicach nag erioed yn ddiweddar oherwydd y pandemig, gan fod cyfyngiadau’r llywodraeth yn golygu bod ein cymunedau amaethyddol hyd yn oed yn fwy ynysig nag o’r blaen.

Yn ystod 2022, rydw i’n edrych ymlaen at ymweld ag ardaloedd ledled Cymru a chroesawu aelodau yn ôl i ddigwyddiadau CFfI o bob math a phob maint, a pharhau i hyrwyddo gwaith da’r mudiad ar ein holl gyfryngau cymdeithasol.

Cerys Harts, Cadeirydd Fforwm Ieuenctid CFfI Cymru

Helo! Cerys Harts ydw i, rwy’n 15 mlwydd oedd ac yn aelod o glwb CFfI Llawhaden yn Sir Benfro. Ar hyn o bryd rwyf ym mlwyddyn 11 yn astudio TGAU Daearyddiaeth, Hanes a Ffrangeg, ymlith pynciau eraill. Pan nad ydwi’n yr ysgol neu yn CFfI, byddech chi fel arfer yn fy ngweld yn chwarae pêl-rwyd a hoci, marchogaeth fy merlod neu’n mwynhau’r ardaloedd lleol hardd cyfagos! Mi wnes i sefyll yn Senedd Ieuenctid Cymru eleni oherwydd teimlaf bod pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig angen mwy o gynrychiolwyr. Rydym yn tueddu i gael syniadau gwahanol iawn o beth hoffwn newid i’w gymharu a phobl mewn ardaloedd mwy a threfol. Ar ôl siarad gyda nifer o aelodau am beth hoffen nhw weld yn cael ei weithredu, sylwais ar bwysigrwydd bod ein lleisiau fel cymuned a mudiad yn cael ei glywed. Roedd hyn yn gymhelliant cryf i mi sefyll yn Senedd Ieuenctid Cymru. Os byddwn yn medru gofyn i Lywodraeth Cymru i newid unrhyw beth, byddwn yn holi am fwy o gefnogaeth i bobl mewn ardaloedd gwledig, oherwydd dwi’n gweld pa mor lwcus ydw i i fod yn aelod o CFfI, ond does gan rhai pobl ddim yr un cyfle. Felly mae angen gwneud mwy i arbed iechyd meddwl a chorfforol y bobl ifanc sydd heb y cyfle yma.

Rydw i hefyd yn gyffrous i fod yn Gadeirydd Fforwm Ieuenctid CFfI Cymru eleni, sy’n gyfle ffantastig i fi! Ar ôl bod yn aelod o CFfI dros y 5 mlynedd diwethaf, a bod ar y fforymau ieuenctid sirol, rydw i wedi dysgu pa mor bwysig yw hi i aelodau iau gael y cyfle i gymdeithasu, yn ogystal â chystadlu o fewn y mudiad. Rydw i’n gredu’n gryf bod CFfI yn ffordd ardderchog i wneud ffrindiau newydd, ac mae gen i brofiad uniongyrchol o hyn wrth wneud ffrindiau yn fy sir yn ogystal â Cymru gyfan, diolch i’r fforwm! O fewn fy rôl fel Cadeirydd rydw i’n gobeithio rhoi cyfle i’r ieuenctid o fewn yr holl siroedd i wneud ffrindiau ac phrofi’r cyfleodd positif rydw i wedi’u cael yn ystod fy amser byr yn aelod o CFfI. Dwi’n credu mai’r brif neges hoffwn i ei rhoi i unrhyw aelod iau o unrhyw CFfI ydi, byddwch yn chi eich hunain, a chofiwch sgwrsio gydag aelodau eraill. Dyna’r peth gorau y gallwch ei wneud fel aelod o CFfI, a  byddwch yn creu cyfeillgarwch fydd yn para am byth!