Cipolwg Ar: TGP Cymru

Cyhoeddwyd 01/10/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/10/2021   |   Amser darllen munudau

Yma yn Senedd Ieuenctid Cymru, rydyn ni’n falch o weithio gyda sefydliadau gwych sy'n gweithio gyda phobl ifanc o bob cefndir ledled Cymru.  Yn ystod ei hail dymor, bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn gweithio gyda 18 o sefydliadau partner, a byddwn ni’n eu cynnwys yma ar ein gwefan a'n sianeli cyfryngau cymdeithasol dros yr ychydig fisoedd nesaf. 

Yr wythnos hon, rydyn ni'n dod i adnabod TGP Cymru - Elusen Hawliau Plant blaenllaw yng Nghymru, sy'n cefnogi ac yn cynrychioli plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed drwy ystod o brosiectau, hyfforddiant ac ymgyrchoedd.

TGP Cymru

Mae TGP Cymru yn elusen annibynnol blaenllaw yng Nghymru sy'n gweithio gyda rhai o'r plant, pobl ifanc a theuluoedd sydd fwyaf agored i niwed ac sydd ar gyrion y gymdeithas yng Nghymru. Efallai eu bod yn cael anawsterau wrth gael gafael ar wasanaethau priodol ym maes iechyd, addysg neu ofal cymdeithasol - mae'r rhain yn cynnwys plant ag anableddau, plant ag anghenion iechyd emosiynol a phlant sy'n ceisio lloches.

Mae Rhaglen Ffoaduriaid a Lloches TGP Cymru ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn falch iawn o fod yn gweithio fel Sefydliad Partner gyda Senedd Ieuenctid Cymru eto a chael cyfle i'n Prosiect ynghyd â Phrosiect Teithio Ymlaen TGP ar gyfer Pobl Ifanc Sipsiwn, Roma a Theithwyr ddychwelyd dau aelod, un o bob un o'n cymunedau o bobl ifanc yn dilyn yr etholiadau ym mis Tachwedd.

Daeth Hasna Ali o Syria fel Ffoadur gyda'i theulu ac roedd yn cynrychioli pobl ifanc ar y Senedd Ieuenctid gyntaf erioed yng Nghymru am ddwy flynedd o 2019.

"Roedd yn brofiad anhygoel bod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru. Cyn imi ymuno roeddwn i’n rhy swil am bopeth ond fe wnaeth Senedd Ieuenctid Cymru fy helpu i fod yn gryf. Y peth gorau am fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oedd fy mod i wedi cwrdd â llawer o bobl hyfryd ac mae hefyd wedi fy helpu i wella fy Saesneg. Yn anad dim hoffwn i ddiolch i Tros Gynnal Plant a Senedd Ieuenctid Cymru a gredodd ynof a rhoi’r cyfle anhygoel hwnnw imi hefyd."

Gallwch wylio cyfweliad gyda Hasna am ei phrofiadau gyda'r Senedd ieuenctid yma: https://www.youtube.com/watch?v=Va6sAeVohmE

 

Mae ein Rhaglen Ffoaduriaid a Lloches Cymru Gyfan yn cynnig eiriolaeth annibynnol arbenigol i bobl ifanc. Gan gymryd agwedd gyfannol rydyn ni’n helpu pobl ifanc i ddeall a llywio systemau a thrwy gyfleoedd a gweithgareddau eiriolaeth, mentora a chyfranogi rydyn ni’n helpu pobl ifanc i fagu hyder, dysgu sgiliau newydd a chael eu grymuso i leisio eu barn, cyfrannu at wneud penderfyniadau a gweithio i sicrhau newid cadarnhaol yn eu cymuned. Helpodd ein Prosiect Llesiant a ddechreuodd yn ystod misoedd cynnar y pandemig yng Nghymru i frwydro yn erbyn unigrwydd ac addysgu pobl ifanc i ymdopi â strategaethau i'w helpu gyda phryder, straen, hwyliau isel a phroblemau cysgu. Ar ôl misoedd o grwpiau yn dod ynghyd mewn sesiynau ar Zoom, mae wedi bod yn wych cwrdd yn yr awyr agored ac wyneb yn wyneb, yn y Prosiect Gerddi Byd-eang yng Nghaerdydd a chwarae yn y parc.  

 


Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio fel sefydliad partner gyda @SeneddIeuenctid eto. Daeth ein cynrychiolydd Hasna Ali o Syria fel ffoadur gyda'i theulu ac roedd yn aelod o’r Senedd Ieuenctid gyntaf erioed yng Nghymru, am ddwy flynedd o 2019.

Dechreuodd ein Prosiect Llesiant yn ystod misoedd cynnar y pandemig gan helpu pobl ifanc gyda'u hiechyd meddwl. Ar ôl misoedd o ymgynnull drwy Zoom, mae wedi bod yn wych cwrdd wyneb yn wyneb a chwarae eto, yn y Prosiect Gerddi Byd-eang yng Nghaerdydd.