Meddwl rhoi dy enw ymlaen fel Ymgeisydd i Senedd Ieuenctid Cymru?

Cyhoeddwyd 20/09/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/09/2021   |   Amser darllen munudau

Mae ceisiadau’n yn cau am hanner nos  20 Medi 2021.

Mae sefyll fel ymgeisydd yn gyfle gwych i ti godi llais dros faterion sy’n bwysig i bobl ifanc yn dy ardal.

Cofia ddarllen ein Pecyn Ymgeiswyr sy’n cynnwys yr holl wybodaeth rwyt ti ei angen ynglŷn â bod yn Aelod Senedd Ieuenctid Cymru a sut i wneud cais.

Fel rhan o dy gais mae angen i ti gynnwys Datganiad Ymgeisydd. Dyma ychydig o wybodaeth ddefnyddiol i dy gynorthwyo i gwblhau y rhan yma o dy gais:

Cwestiynau Cyffredin – Datganiad Ymgeisydd

 

Beth yw datganiad ymgeisydd?

Mae datganiad ymgeisydd neu fywgraffiad yn fwy na rhestr o ffeithiau sylfaenol amdanoch chi. Dylai pobl ifanc sy'n darllen eich datganiad allu dysgu rhywbeth amdanoch chi, er enghraifft, pam ydych chi am fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru?

 

Pwy fydd yn darllen y datganiad?

Bydd pobl ifanc yn eich ardal neu'ch etholaeth yn gallu darllen eich datganiad fel y gallent benderfynu a hoffent bleidleisio drosoch.

 

Ble bydd pobl ifanc yn gallu darllen y datganiad?

Bydd eich datganiad ar gael ar wefan Senedd Ieuenctid Cymru fel rhan o'ch proffil.

Faint ddylwn i ei ysgrifennu yn y datganiad?

Ni ddylai eich datganiad fod yn fwy na 200 o eiriau.

Faint yw 200 gair?

I roi syniad i chi mae gan y Cwestiynau Cyffredin hyn 400 o eiriau.

Beth ddylwn i ei gynnwys yn y datganiad?

Cofiwch eich bod yn ysgrifennu eich datganiad i berswadio pobl ifanc yn eich ardal neu'ch etholaeth i bleidleisio drosoch.

Efallai yr hoffech chi gynnwys:

1.                   pam yr ydych am fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru

2.                 Pam y byddech yn gwneud Aelod da o Senedd Ieuenctid Cymru

3.                 Sut fyddech chi'n llais i bobl ifanc

4.                Sut fyddech chi'n cynrychioli pobl ifanc

5.                 Sut fyddech chi yn cyfrannu at waith Senedd Ieuenctid Cymru

6.                 Pam y dylai pobl ifanc bleidleisio drosoch chi

Dylech  gynnwys:

7.                 Eich 3 prif fater fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru; beth fyddai eich ffocws.

Beth sy'n gwneud datganiad da?

Mae datganiad da yn berthnasol, yn gryno ac yn gywir.

 

 

Cynllunio datganiad

 

Rhestru neu greu map meddwl o'r hyn y mae angen i mi ei gynnwys yn y datganiad

 

Graddio fy rhestr neu rif fy map meddwl yn nhrefn cynnwys

 

Ysgrifennu drafft o'm datganiad

 

Gofyn i aelod o'r teulu/ffrind/athro ddarllen eich datganiad

 

Ailddrafftio’r datganiad

 

Edrych yn ôl ar y rhestr wirio!

 

Cyflwyno’r datganiad J

 

 

Fy rhestr wirio

 

Ydw i wedi esbonio pam y byddwn yn gwneud Aelod da o Senedd Ieuenctid Cymru?

 

Ydw i wedi sôn am sut y byddwn yn cyfrannu at waith Senedd Ieuenctid Cymru?

 

Ydw i wedi cynnwys sut y byddwn yn cynrychioli barn y bobl ifanc yn fy ardal neu etholaeth?

 

Ydw i wedi cynnwys y 3 mater?

 

A yw fy 3 mater o fewn y pwerau datganoledig yng Nghymru? (Edrychwch ar y pwerau datganoledig yma.)

 

Ydw i wedi gwirio fy sillafu a'm atalnodi?

 

A yw’r datganiad 200 gair neu lai?