Welsh Youth Parliament Member

Welsh Youth Parliament Member

Pum rheswm dros ddod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru

Cyhoeddwyd 05/07/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/07/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn cynnwys 60 Aelod 11–18 oed, a ti sydd i bleidleisio drostyn nhw. Pobl ifanc yng Nghymru sy’n dewis y materion fydd yn hawlio sylw’r Aelodau. Dyma i ti bum rheswm dros ddod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.

Datblygu dy sgiliau

Fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, fe fyddi di’n datblygu sgiliau o fudd i ti am oes.

Fe fyddi di’n codi ymwybyddiaeth am waith Senedd Ieuenctid Cymru a rhannu gwybodaeth amdani, a’r cyfan yr un pryd â datblygu dy sgiliau arwain, cyfathrebu ac ymchwil.

Bydd yna gyfleoedd i gynyddu dy hyder mewn siarad cyhoeddus, ennill profiad o weithio mewn tîm a gwella dy sgiliau rhyngbersonol.

Bod yn ddylanwadwr

A allet ti fod yn llais i bobl ifanc yng Nghymru?

Fe fyddi di’n cwrdd â phobl ifanc o bob cwr o Gymru ac yn clywed am y materion sy'n bwysig iddyn nhw. Iechyd meddwl, y cwricwlwm ysgol, lleihau gwastraff plastig – dim ond rhai o’r materion yw’r rhain a godwyd gan y Senedd Ieuenctid ddiwethaf.

Fe fyddi di’n cael y cyfle i gwrdd â'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau allweddol, ac fe allet ti ddylanwadu ar yr argraff sydd gan Aelodau o’r Senedd o’r materion sy'n wynebu pobl ifanc, a’u dealltwriaeth o’r materion hynny.

Gwneud ffrindiau newydd a rhannu profiadau

Un o'r pethau gorau am ddod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yw gwneud ffrindiau newydd, a rhannu profiadau gyda grŵp o bobl ifanc sy’n llawn amrywiaeth.

Boed yn ymgysylltiad â’r cyfryngau, digwyddiadau neu hyfforddiant, fe fydd yna lawer o gyfleoedd unigryw i gymryd rhan. Efallai mai un o'r cyfleoedd mwyaf cyffrous yw'r cyfle i drafod materion pwysig yn siambr y Senedd. Cymer gip ar gyn-Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru wrth eu gwaith.

Mae Ffion-Haf Davies – cyn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru – yn dweud:

‘tafla dy hun at BOPETH! Boed hynny’n wneud ffrindiau, siarad yn y Siambr, bwyta brownis neu gyfleoedd eraill, jyst gwna’r mwya’ o bopeth.’


Nid gwleidyddiaeth yn unig mohono!

Nid gwleidyddiaeth yw'r pynciau rydym yn eu trafod – maen nhw’n ymwneud â bywyd bob dydd. Yr amgylchedd, ysgolion, gwasanaethau iechyd... pob mater o bwys. 

Fe fyddi di’n grymuso pobl ifanc trwy godi ymwybyddiaeth a thrafod y materion sy'n bwysig iddyn nhw. Beth oedd gwaith Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru?.

Fe fyddi di’n datblygu dy wybodaeth am y modd y mae gwleidyddiaeth yn gweithio, ac yn dod i ddeall sut y mae penderfyniadau'n effeithio ar fywydau pobl ledled y wlad. Fel rhan o dy rôl, fe fyddi di’n rhannu'r wybodaeth hon â phobl ifanc eraill, ac yn eu hannog i ddefnyddio eu llais a bod yn rhan o waith Senedd Ieuenctid Cymru.

Cyfle i gael hwyl!

Fe allwn ni dy sicrhau y byddi di’n cael llawer o hwyl fel Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Nid ein honiad ni yn unig yw hynny! Dyma’r hyn oedd gan Evan Burgess – cyn-Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru – i'w ddweud…

‘Dwy flynedd anhygoel o gyfarfodydd, cynnydd ac yn bwysicaf oll, hwyl. Mae wedi bod yn brofiad gwirioneddol anhygoel sy wedi cynnig cymaint i ni i gyd, ac wedi helpu pobl ifanc ar draws Cymru i ddod o hyd i'w llais.’


Wrth ystyried popeth sy’n digwydd yn y byd, mae angen clywed lleisiau pobl ifanc yn fwy nag erioed. A allet ti, neu rywun rwyt ti’n adnabod, fod yn rhan o Senedd Ieuenctid nesaf Cymru?

Os wyt ti rhwng 11 ac 18 oed, beth am enwebu dy hunan i ddod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru?

Cofia gofrestru i bleidleisio! Mae'n dechrau gyda ti!