Blog gwadd gan Tegan Davies – yr Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Dorfaen.
Pe bai plentyn yn troi ei ffêr, byddai'n cael ei anfon i gael cymorth cyntaf ar unwaith, ac yn cael y driniaeth briodol er mwyn sicrhau ei fod yn gwella.
Mae toriad yn haeddu plastr, clais yn haeddu ei drin gyda phecyn iâ, ac asgwrn wedi torri yn haeddu cael ei drin gyda chast. Pan fydd rhywun yn cael ei frifo'n gorfforol, mae pobl yn gweithredu i wella’r broblem fesul cam ac nid oes neb yn ceisio bychanu neu ddiystyru dioddefaint y person. Pan fydd rhywun yn sâl yn feddyliol, fodd bynnag, gall y sefyllfa fod yn wahanol iawn.
Mae hyn yn arbennig o wir o ran plant ifanc. Yng nghyfnod yr ysgol gynradd (4-11 mlwydd oed) mae'n hanfodol bod y cwricwlwm yn cynnwys arferion fel ymarfer corff, dysgu am y plât bwyta'n iach, a dysgu sut i reidio beic a chroesi'r ffordd yn ddiogel.
Addysgir y rhain i gyd er mwyn sicrhau diogelwch plant, i sicrhau eu bod yn iach yn gorfforol. Yr hyn nad yw'n cael ei ddysgu, fodd bynnag, yw sut i ymdrin â straen bywyd.
‘Nid yw plant yn anymwybodol o’r materion hyn’
Wrth dyfu, mae plant yn agored i brofiadau trawmatig a fydd yn paratoi'r ffordd o ran sut y mae eu hymennydd yn gweithio am weddill eu hoes. Er gwaethaf eu diniweidrwydd, mae’n anochel bod plant yn sylwi ar bethau, er enghraifft, ar eu rhieni yn dadlau, neu pan fyddant hwy a ffrind yn ffraeo, a gall straen ar blant yn sgil eu gwaith ysgol newid y ffordd y maent yn teimlo, yn union yr un ffordd ag y mae straen gwaith, perthnasoedd a phroblemau ariannol yn gallu effeithio ar oedolion.
Yn ôl y Sefydliad Iechyd Meddwl, mae 50 y cant o broblemau iechyd meddwl eisoes wedi dechrau erbyn i berson gyrraedd 14 mlwydd oed. Mae 70 y cant o blant sydd wedi profi problemau iechyd meddwl, fodd bynnag, yn dweud nad oedd yr ymyriadau priodol a’r cymorth sydd ei angen arnynt ar gael yn ddigon cynnar.
Mae plant yn gwybod y dylent wisgo helmed wrth reidio beic, gan eu bod yn gwybod pe baent yn cwympo i ffwrdd, y gallent daro'u pen. Nid yw plant, fodd bynnag, mor ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael ar gyfer iechyd meddwl, ond dylen nhw wybod sut i ofyn am gymorth cwnsela os byddant yn cael pethau’n anodd, oherwydd os nad ydyn nhw'n siarad, fe allai pethau fynd yn rhy bell o ran eu problemau.
Mae hyn wedi dod yn bwysicach fyth wrth i amser fynd yn ei flaen.
Yr effaith ar bobl ifanc
Nawr bod plant yn cael eu magu gyda’r cyfryngau cymdeithasol yn rhan enfawr o'u bywydau, maen nhw'n dod yn fwy agored i aflonyddu a bwlio, ac mae’n bosibl eu bod yn gweld deunydd ar y rhyngrwyd a allai achosi niwed iddynt.
Dywed y mudiad Young Minds bod nifer y bobl ifanc o dan 18 mlwydd oed sydd wedi gorfod mynd i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys o ganlyniad i gyflwr seiciatrig a gofnodwyd wedi mwy na threblu rhwng 2010 a 2019, sef yn y blynyddoedd pan oedd datblygiadau technolegol ar eu hanterth.
A chyda’r pandemig erbyn hyn wedi cael effaith ar y byd, roedd gan un o bob chwe phlentyn (rhwng 5 ac 16 mlwydd oed) gyflwr iechyd meddwl ym mis Gorffennaf 2020, sy'n cyfateb i bump o blant ym mhob ystafell ddosbarth. Ystyr hyn yw, yn fras, ar unrhyw amser bod 35 o blant ym mhob ysgol gynradd a thua 150 o blant ym mhob ysgol uwchradd yn ceisio dygymod â phroblemau iechyd meddwl.
Mae'r ystadegau hyn yn frawychus, a dim ond gwaethygu a wnânt os na sicrheir y gwnaiff pethau newid er gwell.
Mae plant sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl yn debygol iawn o ddioddef o’r effaith arnynt hyd y maen nhw’n oedolion hefyd. Mae Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) yn uniongyrchol gysylltiedig ag 1 o bob 3 o broblemau iechyd meddwl pan fydd yr unigolion yn oedolion.
Mae'r effaith y mae hyn yn ei chael ar fywyd yn enfawr, oherwydd bydd plant na allant ymdrin â’u hemosiynau yn tyfu'n oedolion na allant brosesu eu hemosiynau ychwaith.
Yn ôl y Ganolfan Iechyd Meddwl, mae 22 y cant o blant yn aros mwy na 18 wythnos i gael triniaeth gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) yn eu hardal, sef maent yn aros am tua phedwar mis a hanner.
Cael help a chymorth
Un peth yr ydym wedi ei ddysgu o’r cyfnod diweddar yw pa mor gyflym y gall ein hiechyd meddwl ddirywio o fewn ychydig fisoedd.
Fel y profwyd yn sgil arolwg a gynhaliwyd gan Young Minds, mae tri chwarter rhieni wedi sylwi, o fewn yr amser aros am Wasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Glasoed (CAMHS), fod iechyd meddwl eu plentyn wedi gwaethygu.
Nid yw 47% o bobl ifanc yn gwybod sut i gael cymorth ar wahân i drwy geisio cael apwyntiad gan eu meddyg teulu.
Yn syml, nid oes digon o gymorth ar gael ar gyfer diogelu a gwella iechyd meddwl pobl ifanc. Fel un a dyfodd i fyny yn ei chael hi’n anodd ymdopi ar brydiau, yn ceisio cael cymorth pan oeddwn rhwng 10 a 14 mlwydd oed, gwn pa mor dywyll y gall cyfnod plentyndod fod.
Ni ddylid dweud mai ‘hormonau' neu’r cyfnod glasoed yn unig yw tarddiad problemau iechyd meddwl mewn merched a bechgyn ifanc.
Maen nhw'n broblemau real. Maen nhw’n broblemau perthnasol. Maen nhw’n broblemau pwysig.
Oes gen ti rywbeth i’w ddweud am iechyd meddwl?
Mae bod yn iach yn feddyliol a byw'n dda yn bwysig i bob un ohonom.
Rydym ni am glywed gennyt ti i’n helpu i ddeall pa faterion sydd angen ein sylw ni.
Llenwa ein harolwg #MeddyliauIauoBwys.
chevron_right