Cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl

Amser siarad

Os wyt ti'n cael problemau iechyd meddwl, nid wyt ti ar dy ben dy hun. Bydd 1 o bob 4 ohonon ni’n cael problemau iechyd meddwl ryw bryd yn ein bywydau.

Dyna pam mae angen dy help di arnon ni i ddeall ac edrych yn fanwl ar gymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl i bobl ifanc yng Nghymru dros y ddwy flynedd nesaf.

IECHYD MEDDWL

Dyma sut i gymryd rhan yn ein gwaith ar gymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl i bobl ifanc yng Nghymru.

Heddiw, yn arwain at 'Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd', mae Pwyllgor Cymorth Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Senedd Ieuenctid Cymru yn lansio ei adroddiad a'i fideo, 'Gadewch i Ni Siarad am Iechyd Meddwl'. Gallwch darllen fersiwn hawdd i ddarllen yma.

Nod yr adroddiad yw adlewyrchu’r gwir sefyllfa o ran y cymorth emosiynol ac iechyd meddwl sydd ar gael ar hyn o bryd i blant a phobl ifanc yng Nghymru – da, gwael a go lew. Bydd y fideo'n gyfle i bobl ifanc, rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol weld y sefyllfaoedd sy’n codi mewn bywyd go iawn yma yng Nghymru ar hyn o bryd.

Wrth baratoi’r adroddiad, ac i gael y darlun llawn, holodd y Pwyllgor blant a phobl ifanc, rhieni, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol ym maes addysg ac iechyd i gael eu barn ar y wybodaeth a’r cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd yng Nghymru, a hynny drwy gyfrwng arolwg ar-lein.

MAE ANGEN I NI WNEUD GWAHANIAETH A GWNEUD HYN YN SYDYN GAN MAI EIN BYWYDAU NI SYDD YN CAEL EU HEFFEITHIO

Ymatebodd dros 1,600 o bobl i'r arolwg, ac roedd un ohonyn nhw wedi’i baratoi’n benodol ar gyfer plant a phobl ifanc, 11-25 oed.

Cafodd yr ymgynghoriad ei lansio mewn digwyddiadau yn Ysgol David Hughes, Ynys Môn a Choleg Gŵyr, Abertawe pan ddaeth pobl ifanc at ei gilydd i ddweud eu dweud. Ond nid dyna’r cyfan a ddigwyddodd; yn ystod wythnos Senedd Ieuenctid Cymru ym mis Gorffennaf, cafodd pobl ifanc o bob rhan o Gymru eu gwahodd i gymryd rhan mewn sesiynau ar-lein i drafod cymorth emosiynol ac iechyd meddwl.

Mae'r Pwyllgor Iechyd Emosiynol a Meddyliol yn teimlo'n angerddol dros wneud yn siŵr bod cymorth gwell ar gael i blant a phobl ifanc yng Nghymru ac yn credu bod angen newid.

Os hoffech siarad gyda rhywun am eich iechyd meddwl ac emosiynau anodd, gall y llefydd yma darparu cymorth:

Y newyddion diweddaraf