Sbwriel a gwastraff plastig

Beth i'w wneud gyda'n gwastraff

P'un a ydyn ni’n bwriadu gollwng sbwriel ai peidio, mae’r sbwriel rydyn ni’n ei daflu’n gallu llygru lle rydyn ni’n byw a gallai gyrraedd y môr yn y pen draw, a phwy a ŵyr lle bydd yn mynd wedyn?

Dyma pam mae angen dy help di arnon ni i ddeall ac edrych yn fanwl ar ffyrdd o fynd i'r afael â sbwriel a gwastraff plastig dros y ddwy flynedd nesaf.

GWNEUD Y GORAU O’N GWASTRAFF

A wyt ti erioed wedi teimlo’n ddig am y sefyllfa o ran y plastig sydd yn ein cefnforoedd? A wyt ti'n teimlo nad oes gen ti unrhyw rym i ddylanwadu ar y mater hwn, na'r cyfle i ddweud dy ddweud arno? Mae’n brofiad cyffredin ymhlith pobl ifanc Cymru, ac rydym yn teimlo bod yn rhaid i’r sefyllfa hon newid.

Heddiw, 5 o Dachwedd, mae Pwyllgor Sbwriel a Gwastraff Plastig Senedd Ieuenctid Cymru yn lansio ei adroddiad, 'Y Gorau o’n Gwastraff’. Mae hefyd copi hawdd i ddarllen o’r adroddiad.

Nod yr adroddiad yw adlewyrchu safbwyntiau ac arferion pobl ifanc yng Nghymru ar sbwriel a gwastraff plastig. Beth yw teimladau pobl ifanc? Pam maent yn teimlo fel hyn, a pha heriau ymarferol sy’n eu hwynebu?

Wrth baratoi’r adroddiad, ac i gael y darlun llawn, holodd y Pwyllgor blant a phobl ifanc, athrawon ac arbenigwyr yn y maes, i gael eu barn am y sefyllfa yng Nghymru.

EIN DYFODOL NI SYDD YN FANTOL. MAE’N RHAID I NI WEITHREDU NAWR.

Holwyd plant a phobol ifanc rhwng 9-25 oed, a chasglwyd yr holl ymatebion ynghyd yn ystod y cyfnod clo mawr (lockdown). O ganlyniad i COVID-19, bu'n rhaid i ni ohirio digwyddiadau di-blastig ym mis Mawrth, a'r broses o lansio'r ymgynghoriad hefyd. Er gwaethaf hyn, gwnaethom lwyddo i gasglu ymatebion gan 600 o bobl ifanc.

Yn ystod wythnos Senedd Ieuenctid Cymru ym mis Gorffennaf, cafodd pobl ifanc o bob rhan o Gymru eu gwahodd i gymryd rhan mewn gweithdai ar-lein ar ‘Y Gorau o’n Gwastraff’, ac i gymryd rhan mewn dadl, ‘Newid Hinsawdd: Cyfrifoldeb Pwy?’. Cynhaliwyd trafodaeth bellach gyda phum aelod o’r Pwyllgor yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol Amgen, sef digwyddiad ar-lein, a ddarlledwyd ar 8 Awst, 2020. O dan arweiniad y cyflwynydd tywydd Steffan Griffiths, clywsom am beryglon a'r newidiadau ein byd sydd yn amlygu ei hunain eisoes o ganlyniad i Newid Hinsawdd. Trafodom hefyd ein safbwyntiau ni a'n dyheadau am ddyfodol gwyrddach.

Mae'r Pwyllgor Sbwriel a Gwastraff Plastig yn teimlo'n angerddol dros sicrhau bod pobl ifanc yn cael llais cryfach yn y maes hwn, bod mwy o ddarpariaeth ar gael i gynorthwyo'r broses o ailgylchu, ailddefnyddio a lleihau sbwriel a gwastraff plastig, a bod y sefyllfa yn newid ar frys.

Y newyddion diweddaraf