AROLWG #FFYRDDGWYRDD

Cyhoeddwyd 20/03/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 20/03/2023   |   Amser darllen munudau

Mae angen eich help arnom ni i ddeall pa anawsterau neu rwystrau sy'n atal pobl ifanc rhag ddefnyddio mwy o drafnidiaeth cynaliadwy.

Beth yw dy brofiadau di? Ydy cost trafnidiaeth gyhoeddus yn broblem? Beth am ddibynadwyedd gwasanaethau? Wyt ti'n teimlo'n ddiogel i feicio neu gerdded? Beth am hygyrchedd? 

Os wyt ti rhwng 9 a 25 oed ac mae gennyt ti rywbeth i'w ddweud am drafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol, dyma dy gyfle.

Rydym yn annog ymatebion gan bobl ifanc o nifer amrywiol o gefndiroedd ac rydym bob amser yn ymdrechu i fod yn gynhwysol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan bobl ifanc anabl, pobl ifanc o ardaloedd gwledig a phobl ifanc o ardaloedd difreintiedigl.

Cymera ran drwy lenwi ein harolwg👇 Fe ddylai gymryd llai na 10 munud:

AROLWG FFYRDD GWYRDD FERSIYAU HAWDD I'W DARLLEN

Bydd gennym fersiynau hawdd i'w darllen o'r sgrin ac i'w printio o'n harolwg ein hymgyrch #FfyrddGwyrdd yn fuan iawn. Os hoffech yrru eich copiau papur atom, gyrrwch nhw (plis ysgrifennwch yn union fel sydd wedi cael ei deipio ar y dudalen - yn Gymraeg ac yn Saesneg) fel hyn:

Blaen yr amlen:

Freepost WELSH PARLIAMENT RHADBOST SENEDD CYMRU

Cefn yr amlen:

Tim Senedd Ieuenctid Cymru

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau am sut gallwn wella'r broses hwn plis cysylltwch gyda ni


DIGWYDDIADAU A GRWPIAU FFOCWS

Yn ogystal â chwblhau'r arolwg, gallwch gymryd rhan yn ein digwyddiadau a'n grwpiau ffocws. Os oes gennych ddiddordeb, e-bostiwch Elin Hargrave neu Bethan Roberts yn ein tîm.

AROLWG I OEDOLION, RHIENI A PHOBL PROFFESIYNOL AR DRAFNIDIAETH CYHOEDDUS A THEITHIO LLESOL

Os ydych yn rhiant, yn warcheidiwr neu yn gweithio gyda phobl ifanc rydym eisiau clywed gennych (mae'r opsiwn Cymraeg ar dop dde'r sgrin): cwblhewch ein harolwg heddiw.