Etholiad Senedd Ieuenctid Cymru: Ar gyfer pwy y galla i bleidleisio?

Cyhoeddwyd 18/10/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/11/2021   |   Amser darllen munudau

Bydd etholiad nesaf Senedd Ieuenctid Cymru yn cael ei gynnal rhwng 1 a 22 Tachwedd 2021 lle gall pobl ifanc o bob cwr o Gymru, rhwng 11-18 oed fynd ar-lein a phleidleisio dros bwy maen nhw am ei weld yn cynrychioli eu hardal leol am y ddwy flynedd nesaf.

Heddiw, rydyn ni wedi cyhoeddi'r holl ymgeiswyr ar gyfer y 40 o seddi etholaethol. Gelli weld pwy sy'n sefyll yn dy etholaeth a beth yw’r materion sy’n bwysig i bobl ifanc ledled Cymru yn eu barn nhw.

https://seneddieuenctid.senedd.cymru/ymgeiswyr/

Os nad wyt ti’n siŵr beth yw enw dy etholaeth, mae gennym ni declyn defnyddiol ar wefan y Senedd. Gelli nodi dy god post yma

Sut alla i bleidleisio?

Os hoffet ti bleidleisio yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru rhwng 1 a 22 Tachwedd, mae angen iti sicrhau dy fod wedi cofrestru i bleidleisio.

Mae angen iti sicrhau dy fod wedi cofrestru i bleidleisio erbyn 12 Tachwedd.

Unwaith dy fod wedi cwblhau'r ffurflen gofrestru i bleidleisio, cofia wneud yn siŵr dy fod yn mynd i dy negeseuon e-bost i wirio dy gyfeiriad e-bost. Cofia edrych yn y blwch Junk/Spam rhag ofn i’r neges e-bost ymddangos yno.

Os byddi’n cofrestru i bleidleisio cyn 29 Hydref, fe fyddi di’n derbyn dy god pleidleisio i allu mynd ar-lein a phleidleisio, ar 1 Tachwedd.

Os byddi’n cofrestru i bleidleisio rhwng 30 Hydref a 12 Tachwedd, fe fyddi di’n derbyn dy god pleidleisio ar 15 Tachwedd.

Ar ôl iti gael dy god pleidleisio, gelli fynd i wefan Senedd Ieuenctid Cymru i fwrw dy bleidlais.

At sylw’r rhai sy’n gweithio ym myd addysg ac ieuenctid

Adnoddau

Oes gen ti awydd cynnal digwyddiad hystings? Neu wyt ti eisiau cynnal dadl ar y materion sy’n bwysig i bobl ifanc yng Nghymru? Mae gennym ni lu o adnoddau ar gael iti eu defnyddio yn dy ysgol, dy goleg neu dy grŵp ieuenctid.

Diwrnod etholiad

Oes ymgeisydd yn dy ysgol, coleg neu grŵp ieuenctid? Beth am drefnu sesiwn diwrnod etholiad gydag aelod o dîm Addysg y Senedd?

Sesiwn sydd ar gael i ysgolion/grwpiau ieuenctid sydd â phobl ifanc rhwng 11 a 17 oed. Mae dau opsiwn, yn dibynnu a oes gan dy ysgol, coleg neu grŵp ieuenctid ymgeisydd neu beidio.

Mae’r sesiynau’n ffordd wych o addysgu pobl ifanc am y Senedd Ieuenctid nesaf i Gymru. Mae llawer o bobl ifanc yn aml yn ansicr o bwy i bleidleisio drosto, a pham i bleidleisio drostyn nhw. Byddai hystings yn eu helpu i benderfynu pwy i bleidleisio drosto yn ystod etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru ym mis Tachwedd 2021.

Mae croeso iti gysylltu â ni am ragor o wybodaeth am y sesiynau hyn – helo@seneddieuenctid.cymru neu mae mwy o wybodaeth ar y wefan.

Pecyn marchnata

Mae’n bosibl iti dderbyn pecyn marchnata yn cynnwys posteri gwybodaeth y gelli eu defnyddio yn dy ysgol, coleg neu grŵp ieuenctid i annog pobl ifanc i gofrestru i bleidleisio ac yna pleidleisio yn yr etholiad. Mae croeso iti anfon neges e-bost at helo@seneddieuenctid.cymru er mwyn derbyn dy becyn.

Cylchlythyr

Mae gan Senedd Ieuenctid Cymru gylchlythyr sy’n cael ei anfon bob mis. Os hoffet ti gael y newyddion diweddaraf, mae croeso iti gofrestru i dderbyn y cylchlythyr yma.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Unwaith y bydd y cyfnod pleidleisio yn cau ar 22 Tachwedd, bydd y pleidleisiau'n cael eu cyfrif a byddwn ni’n cyhoeddi ddechrau mis Rhagfyr pwy fydd aelodau Senedd Ieuenctid Cymru ar gyfer 2021 - 2023.